Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Meysydd Chwarae a Chaeau Pob Tywydd

Published: 10/03/2017

Mabwysiadwyd Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor gan y Cyngor Llawn ar 14 Chwefror ac roedd hyn yn cynnwys arian a glustnodwyd ar gyfer meysydd chwarae a chaeau pob tywydd. Yng nghyfarfod y Cabinet y mis hwn gofynnir i gynghorwyr gytuno ar y cynlluniau ar gyfer y meysydd hyn y bydd buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud ynddynt dros y tair blynedd nesaf. Mae Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor wedi cymeradwyo bron £900,000 ar gyfer gwariant ar feysydd chwarae a chaeau pob tywydd yn y dyfodol, sydd yn ychwanegol at y £0.105 ar gyfer cynlluniau meysydd chwarae nawdd cyfatebol. Mae’r caeau pob tywydd ym Mold Alun a Phenarlâg bellach dros 10 oed ac adnewyddu’r rhain fydd yn cael y flaenoriaeth uchaf. Mae’r chwe chae yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy hefyd angen eu newid gan eu bod wedi cyrraedd diwedd eu hoes o saith mlynedd. Mae defnydd da’n cael ei wneud o’r caeau hyn ac maen nhw’n cynhyrchu incwm o £0.120m y flwyddyn. Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu buddsoddi mewn meysydd chwarae lleol dros y tair blynedd nesaf. Bydd buddsoddiad o £25,000 yn cael ei wneud mewn meysydd chwarae yn y Fflint, Ffynnongroyw, Cei Connah a Bagillt yn ystod y flwyddyn ariannol 2017/18, a bydd gwelliannau i gaeau chwarae eraill yn y blynyddoedd dilynol. Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Hamdden, Cynghorydd Kevin Jones: “Rydw i wrth fy modd fod Gweinyddiaeth y Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ein caeau a’n meysydd chwarae er mwyn sicrhau’r cyfleusterau gorau posibl ar gyfer trigolion Sir y Fflint. Mae cadw’n ffit ac yn actif mor bwysig ac mae’n wych fod yr arian hwn yn cael ei fuddsoddi, yn enwedig gan fod cynghorau ar hyn o bryd yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol anodd dros ben. Rwy’n sicr y bydd y buddsoddiad cyfalaf hwn, sydd yn ychwanegol at y nawdd cyfatebol a dderbynnir, yn cael ei groesawu gan bawb.”