Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofrestru i bleidleisio

Published: 01/04/2022

AdobeStock Election tick.jpegPeidiwch â cholli eich hawl i bleidleisio a dweud eich dweud yn etholiadau’r Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned sy’n cael eu cynnal ddydd Iau, 5 Mai.

Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, mae angen i chi fod ar y gofrestr etholwyr a bod yn 16 oed neu hyn.

Mae pawb yn gyfrifol am gofrestru eu hunain, ac mae’n broses gyflym a syml.  I gofrestru, ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Hefyd, gallwn ddarparu ffurflenni cais papur ar gais. Ewch i: www.aboutmyvote.co.uk ac argraffu ffurflen gofrestru.  Gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol ar 01352 702300.

Mae gennych tan 5pm ddydd Iau 14 Ebrill i gofrestru i bleidleisio.    Os byddai’n well gennych bleidleisio trwy’r post ac nad ydych chi am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, mae gennych tan ddydd Mawrth 19 Ebrill i wneud cais am bleidlais trwy’r post. 

Ac mae gennych tan ddydd Mawrth 26 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy (os nad ydych chi’n gallu pleidleisio’n bersonol, gallwch ofyn i rhywun bleidleisio ar eich rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy).