Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Gemau Cyfrifiadurol Gwledig yn cyflwyno Castle Quest Adventure Arcade

Published: 07/04/2022

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi uno â myfyrwyr gemau cyfrifiadurol Prifysgol Glyndwr Wrecsam i gynhyrchu chwe gêm cyfrifiadur rhyngweithiol.   

Gan ddefnyddio Castell Caergwrle, cyflwynodd y tîm Cefn Gwlad her i fyfyrwyr gemau cyfrifiadurol Prifysgol Glyndwr Wrecsam i greu grwp o gemau wedi’u seilio ar thema’r castell a’r amgylchedd naturiol. Y nod oedd annog mwy o bobl, yn cynnwys pobl ifanc nad oedd wedi ymweld â’r castell, i ryngweithio â’r gemau hwyliog ac addysgiadol.  

Ymatebodd myfyrwyr datblygu gemau cyfrifiadurol Prifysgol Glyndwr i’r her, gan ddefnyddio’r prosiect fel rhan o’u modiwl Gemau Difrifol a Thechnoleg Drochi.  Fe wnaethant gynhyrchu nifer o gemau cyffrous dros oes y prosiect a dewiswyd chwech o’r gemau am eu hapêl i dîm y prosiect ac aelodau’r cyhoedd. https://digital.flintshire.gov.uk/FCC_PressRelease/Attachment/Display/9049

Y gemau llwyddiannus yw:

Caergwrle Conquest feat Dr Iving – a grëwyd gan Ryan Roberts 

Got Ya Socks!? – a grëwyd gan Philip Cholewa 

Coin Castle – a grëwyd gan RA 

Rural Rampage – a grëwyd gan Joseph Evans ac Oliver Power

Bastion of Valour - a grëwyd gan Alex Chambers, Alex Davies a Ryan Davies

Castle Hunter – a grëwyd gan Ritchie Robinson, Alistair Shah a Jonathan Halsall

Meddai Nathan Roberts, Uwch Ddarlithydd Cyfrifiadura: 

“Roeddem ni wrth ein bodd yn uno gyda thîm Cefn Gwlad Sir y Fflint ar gyfer y prosiect yma.

“Bu’n gyfle gwych i’n myfyrwyr gael profiad yn datblygu eu sgiliau ar brosiect go iawn, ac mae gweld eu gwaith yn symud o’r cam cynllunio a dylunio i’r cynnyrch gorffenedig wedi bod yn fuddiol iawn."

Meddai Tom Woodall, Rheolwr Gwasanaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol:

“Dyma gyfle ardderchog i gysylltu’r amgylchedd naturiol a threftadaeth leol gyda’n prifysgol leol, eu sgiliau a thechnoleg gemau cyfrifiadurol.  Fe ymatebodd y myfyrwyr gemau cyfrifiadurol i’r her ac maent wedi rhoi adnoddau ardderchog i ni eu defnyddio yn y Castell. Mae hefyd yn ffordd o allu symud ymlaen i ddefnyddio a datblygu’r gemau hyn ar gyfer safleoedd cefn gwlad eraill yn Sir y Fflint.”

Ychwanegodd Henry McNamara, athro dan hyfforddiant sydd â gradd yn y cwrs:

“Mae’r canlyniadau terfynol yn wych, dwi’n gobeithio y bydd pobl yn cael hwyl yn chwarae’r gemau ac yn mwynhau ychwanegu at eu gwybodaeth diolch i syniadau, gwaith caled ac ymroddiad y myfyrwyr.”

 

 IMG_15032.jpg