Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Ffair Swyddi

Published: 09/05/2022

Jobs_Welsh_AdobeStock_229293663.jpg

Roedd bron i 600 o bobl wedi mynychu’r digwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant cyntaf a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ers y pandemig. 

Roedd y Ffair Swyddi wedi’i hanelu at oedolion a phobl ifanc sy’n chwilio am waith a bu’n gydweithrediad llwyddiannus arall rhwng Cymunedau am Waith, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru.

Roedd yna dros 60 o gyflogwyr yn y digwyddiad gyda 1000 o swyddi gwag.  

Yn ogystal ag ymgeisio am y nifer o swyddi gwag a gynigiwyd, roedd ceiswyr gwaith yn gallu cyfarfod gyda a gofyn cwestiynau uniongyrchol i gyflogwyr.  

Yn ystod y misoedd i ddod bydd yna ffeiriau swyddi dros dro ar draws y sir.  Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.

Os ydych yn gyflogwr ac yn dymuno cymryd rhan, gallwch anfon e-bost at Janiene.davies@flintshire.gov.uk neu nia.parry@flintshire.gov.uk