Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn enwi Cabinet newydd

Published: 24/05/2022

Logo Cyngor Sir y FflintDdydd Mawrth, 24 Mai, cafodd y Cynghorydd Ian Roberts ei ail-ethol yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf.  Bydd yn parhau i fod yn Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden.  Enwodd ei Gabinet fel a ganlyn:

Y Cynghorydd Christine Jones - Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Y Cynghorydd Dave Hughes - Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r strategaeth cludiant rhanbarthol

Y Cynghorydd Chris Bithell - Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd 

Y Cynghorydd Billy Mullin - Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol

Y Cynghorydd Paul Johnson - Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant, Cymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael

Y Cynghorydd Sean Bibby - Aelod Cabinet Tai ac Adfywio

Y Cynghorydd David Healey - Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi