Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fflecsi Treffynnon yn cyrraedd mwy o bentrefi

Published: 26/05/2022

Fflecsi 530x265.jpgYn sgil llwyddiant a phoblogrwydd gwasanaeth bws Fflecsi Treffynnon, mae’r gwasanaeth yn ehangu i gynnwys pentrefi Penyffordd, Picton, Gwespyr, Gronant a Gwaenysgor.

Mae Fflecsi yn cynnig gwasanaeth bws llawer mwy cyfleus ar gyfer Treffynnon a’r ardaloedd amgylchynol.  Byddwch yn talu ar y bws fel unrhyw wasanaeth arall – ond y gwahaniaeth mwyaf yw eich bod yn archebu’r bws trwy’r ap neu drwy’r ganolfan alwadau.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Cludiant Rhanbarthol, y Cynghorydd Dave Hughes: 

“Rydym yn falch iawn o weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i ehangu ar y gwasanaeth fflecsi yma yng ngorllewin Sir y Fflint. Mae’r gwasanaeth wedi bod yn boblogaidd iawn ers ei lansio ym mis Mehefin ac mae’n galluogi preswylwyr i fynd allan, gyda chysylltiadau uniongyrchol â gorsaf fysiau Treffynnon, siopau lleol, cyfleusterau hamdden ac apwyntiadau meddygol mewn ffordd fwy hwylus.” 

Dywedodd Pennaeth Datblygu Rhwydwaith a Gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru, Andrew Sherrington:

“Mae Fflecsi yn darparu gwasanaeth sydd wir ei angen ar bobl ar draws Cymru, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny lle mae cludiant cyhoeddus wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, gan ddarparu mynediad i wasanaethau cyhoeddus a mynd i’r afael â thlodi cludiant mewn ardaloedd gwledig.”

Mae’r bysiau Fflecsi yn gweithredu mewn ardal wasanaeth benodol yn ac o amgylch Treffynnon ac mae’n galluogi trigolion heb wasanaethau cludiant cyhoeddus i gysylltu gyda gwasanaethau bws masnachol yn Nhreffynnon a Chaerwys.  Maent hefyd yn cynnig cludiant i gyfleusterau hamdden, siopau masnach, cyflogaeth, clybiau ar ôl ysgol ac apwyntiadau meddygol, gan leihau arwahanrwydd cymdeithasol a brofir gan rai preswylwyr gwledig.

Mae Fflecsi yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener 09:15 tan 18:00 ac ar ddyddiau Sadwrn o 9:15 tan 13:00 ac ar gael i bawb, yn union fel bws arferol. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd fwy pwrpasol o fynd o gwmpas gan eich cludo a’ch gollwng mewn ardal benodol ac nid ar lwybr bws arferol.

Defnyddiwch y bws Fflecsi ar gais, bydd yn eich codi yn agos i ble rydych chi ac yn newid ei lwybr fel y gall holl deithwyr eraill sydd wedi archebu fynd i ble maent angen mynd.  

I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion y gwasanaethau, a map o’r ardal sy’n cael ei wasanaethu a sut i archebu, ewch i https://www.fflecsi.cymru/.