Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg Cyflwr Stoc y Sector Preifat

Published: 10/03/2017

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint, pan fyddant yn cyfarfod yr wythnos nesaf, ynglyn ag arolwg cyflwr stoc y sector preifat a gynhaliwyd yn 2016 gan Opinion Research Services ar ran y Cyngor. Samplodd yr arolwg 1,223 o anheddau sector preifat. Mae canfyddiadau allweddol yr arolwg wediu crynhoi isod. Maer sector rhentu preifat wedi tyfun sylweddol yn Sir y Fflint (20% o anheddau o gymharu â 14% yn 2011) er maen parhau i fod yn llai na sawl ardal arall (24% Arolwg Tai Lloegr). Mae gan y sector rai meysydd o bryder: Mae bron i 40% or tenantiaid wedi byw yn y cyfeiriad am lai na 2 flynedd - gydag effaith ganlyniadol ar sefydlogrwydd aelwydydd a chydlyniant cymunedol; Mae tai rhentu preifat yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr gwael – 25.4% o gymharu â 18.1% ar gyfer Sir y Fflint yn ei chyfanrwydd; Mae tai rhentu preifat yn fwy tebygol o fod ag effeithlonrwydd ynni llai o gymharu âr Sir gyfan, er bod effeithlonrwydd ynni ar gyfer anheddau ar draws Sir y Fflint wedi gwella. Er gwaethaf hyn, bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr anheddau anaddas yn Sir y Fflint ers yr arolwg diwethaf yn 2010. Mae nifer yr anheddau gyda pheryglon categori 1 wedi gostwng o 23.5% i 8.4%. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint: Maer Cyngor yn falch o weld bod lefel y tai anaddas wedi gostwng yn sylweddol ers yr arolwg diwethaf. Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon ac maer Cyngor yn parhau i weithion galed i ganfod cyfleoedd i ddenu cyllid allanol i fynd ir afael ag effeithlonrwydd ynni a gwelliannau tai ar gyfer yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y Sir.