Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Newydd

Published: 27/05/2022

Mared and Gladys.JPG

Ddydd Mawrth 24 Mai, cafodd y Cynghorydd Mared Eastwood ei phenodi yn Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.   

Mae hi’n cynrychioli ward New Brighton ac mae hi wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers mis Mai 2017. 

Mae’r Cynghorydd Eastwood wedi helpu i drefnu, cyflwyno a chefnogi digwyddiadau a grwpiau cymunedol amrywiol ac mae hi hefyd yn glerc ar gyfer Cyngor Cymuned Argoed ar hyn o bryd. 

Mae hi’n byw yn New Brighton ers dros 18 mlynedd gyda’i gwr a dau fab.  Ei gwr, Mr Tim Eastwood fydd ei chydwedd.

Dywedodd y Cynghorydd Eastwood:

 “’Dw i wrth fy modd yn cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae’n anrhydedd mawr cynrychioli Sir mor anhygoel â’n un ni. Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau hyd eithaf fy ngallu ac yn cynrychioli Sir y Fflint gyda balchder.” 

Mae’r Cynghorydd Gladys Healey wedi cael ei phenodi yn Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.

Mae Cynghorydd Healey yn cynrychioli adran etholiadol Yr Hôb ac mae wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers mis Mai 2017.  Ei gwr, y Cynghorydd David Healey sydd yn cynrychioli adran etholiadol Caergwrle fydd ei chydwedd.

Mae hi wedi byw yn Yr Hôb ers 36 o flynyddoedd ac mae hi’n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Estyn.

Fe arferai Cynghorydd Healey weithio mewn nifer o leoliadau gofal yn cynnwys Adrannau Llawfeddygol ac Orthopaedeg yn Ysbyty Maelor Wrecsam.  

Mae ganddi ddwy o ferched a thri o wyrion ac wyresau.