Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dal i Ddod (Still to Come)

Published: 31/05/2022

Dal i Ddod.JPGYmunodd Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint â grwp o bobl ifanc o Ysgol Maes Garmon yn ddiweddar ar gyfer prosiect newydd, cyffrous o’r enw ‘Cân a Lles’ .

Cafodd y prosiect ei arwain gan y canwr a’r cyfansoddwr Tom Collins a oedd â dechreuad cân yn barod i’r bobl ifanc weithio gyda hi. Ond roedd gan y bobl ifanc dalentog hyn syniadau eraill ac fe wnaethon nhw benderfynu eu bod nhw eisiau ysgrifennu, cyfansoddi a recordio eu cân eu hunain gyda chefnogaeth Tom.  

Yn y sesiynau gyda Tom fe wnaethon nhw lwyddo i wneud yr union beth.  Fe wnaethon nhw ysgrifennu geiriau anhygoel yn adlewyrchu eu profiadau dros ddwy flynedd y pandemig – da a drwg.  

Yn dechrau gyda’r cyfnod clo cyntaf pan fu’n rhaid i bawb aros adref, yr ysgolion wedi cau, pobl ddim yn cael gweld eu ffrindiau a’u teulu am gyfnodau hir, mwgwd ar wynebau yn lle gwên, yna’r clapio mewn undod a gorfod dysgu ffordd newydd o fyw. Roedd yna gymaint o gyfnodau clo pan oedd pobl yn teimlo’n unig ac yn ynysig. Ond, er gwaethaf yr unigrwydd, roedd yna obaith a chyfleoedd, roedd yr ysbryd cymunedol ar ei orau. Dywedodd y bobl ifanc mai’r neges wrth ddod allan o’r pandemig a’r cyfnodau clo yw bod rhyddid yn beth gwych a’n bod ni i gyd yn ôl efo’n gilydd unwaith eto rwan.

Meddai’r Swyddog Iaith Gymraeg Cymunedol, Darren Morris:

“Mae’r gân wir yn cwmpasu’r hyn ddigwyddodd a dwi’n siwr y bydd pawb sy’n gwrando arni’n gwerthfawrogi’r neges. 

“Roedd yr 8 unigolyn ifanc a gymerodd ran yn ffantastig, fel yr oedd Ysgol Maes Garmon a’u hathrawon gyda’u holl gefnogaeth a brwdfrydedd.  Rydym ni’n falch iawn o’r bobl ifanc yma a phopeth maen nhw wedi’i wireddu.   Nhw ysgrifennodd y gân, nhw gyfansoddodd y gerddoriaeth a nhw wnaeth chwarae’r offerynnau a chanu, ac rydym yn gobeithio y bydd pawb sy’n gwrando ar y gân yn teimlo pob gair.”  

Dywedodd Arweinydd Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae’r grwp hwn o bobl ifanc wedi gwneud gwaith gwych ac mae’r gân yn rhoi mewnwelediad ingol i sut y mae ein pobl ifanc ni’n teimlo.  Dyma brosiect rhagorol arall wedi’i arwain gan ein gwasanaeth ieuenctid.  Da iawn chi bawb a gymerodd ran! Plîs gwrandewch ar y gân.”  

Gallwch weld y gân a’r fideo sy’n cyd-fynd â hi yma.

Noddwyd y prosiect hwn yn llawn gyda chyllid Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru, gan roi cyfle i bob ifanc fod â lle diogel i harneisio eu creadigrwydd a’u hangerdd am gerddoriaeth.