Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant i Sir y Fflint yn Eisteddfod yr Urdd!

Published: 07/06/2022

Hoffai Cyngor Sir y Fflint longyfarch holl ddisgyblion Sir y Fflint a fu’n cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Ym mis Mawrth eleni, cofrestrodd 946 o blant a phobl ifanc o 7 aelwyd yr Urdd, 12 ysgol gynradd a 4 ysgol uwchradd/coleg yn Sir y Fflint i gystadlu yn Eisteddfod Sir yr Urdd.  Roedd hyn yn cynnwys cystadlaethau llwyfan a’r cystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg.

Bu Cadeirydd newydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Mared Eastwood, yno ar y dydd Sadwrn i gefnogi person ifanc o un o’n Clybiau Ieuenctid ni a oedd yn cystadlu am y tro cyntaf.  Dywedodd:

“Mi oeddwn i’n falch iawn o fod yno a chefnogi ein pobl ifanc yn Eisteddfod yr Urdd eleni.  Mae’r ffaith bod pobl ifanc o’n Clybiau Ieuenctid ni wedi cystadlu’n llwyddiant mawr i’n darpariaeth ieuenctid – yn cynnig cyflwyniad iddyn nhw i gyfleoedd yn Gymraeg drwy ein gwasanaethau ni a gyda’n cymorth ni.”

Aeth llawer o’r bobl ifanc oedd yn cynrychioli eu hysgol neu glwb ymlaen i ennill yn eu cystadleuaeth, gan gynnwys Alana Stevens ac Awen Grug Hogg (y ddwy am lefaru), Beca Fflur (unawd i ferched) ac Aelwyd yr Wyddgrug (tîm siarad cyhoeddus).

Roedd llawer i’w ddathlu yn y cystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg hefyd, a’r cystadleuwyr canlynol o Sir y Fflint yn ennill: Elis Ashford ac Erin Parks (am wneud llun) a Megan Griffiths (ffasiwn).

Cafodd disgyblion Sir y Fflint hefyd lawer o ail a thrydydd gwobrau yn ystod yr wythnos – mae’r rhestr lawn i’w gweld isod.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden Cyngor Sir y Fflint:

“Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion o Sir y Fflint a fu’n cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd eleni.  Dylai pob un ohonoch chi fod yn falch iawn.  Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf i’r iaith Gymraeg a thrwy ein Cynllun Cymraeg mewn Addysg, rydyn ni’n cefnogi pobl o bob oed i wella eu sgiliau Cymraeg ac i ddatblygu’r hyder i ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd o ddydd i ddydd.

“Wrth i ni i gyd barhau i gael ein cefnau atom ar ôl y pandemig, mae’n wych o beth bod cymaint o’n pobl ifanc ni wedi gallu cystadlu eleni.”

Rhestr o enillwyr Sir y Fflint:

 

enillwyr Urdd Eisteddfod enillwyr Urdd Eisteddfod

 

YFEB3870.jpg

Cadeirydd y Cyngor, Cyng Mared Eastwood, Lili Lloyd, Darren Morris, Avril Williams