Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar y Cynllun Cartrefi i Wcráin

Published: 09/06/2022

Wales_stands_with_Ukraine_WELSH.pngYn dilyn ymateb hynod gadarnhaol pobl Cymru i gynllun Uwch-Noddwyr Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gyflwyno mwy na 2000 o fisas hyd yma, mae Gweinidogion wedi cyhoeddi saib gweithredol dros dro ar geisiadau newydd yn ystod mis Mehefin. 

Diben y saib dros dro yw sicrhau bod pobl sy’n cyrraedd, a’r rhai sydd eisoes yma yng Nghymru, yn parhau i gael lefel ragorol o ofal a chefnogaeth.

  • Mae 5,668 o geisiadau wedi'u cadarnhau wedi'u cyflwyno gyda noddwr yng Nghymru, gyda 2,866 ohonynt â Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr.
  • Mae 4,909 o fisas wedi'u rhoi i'r rhai sydd â noddwr yng Nghymru, gyda 2,453 ohonynt â Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr.
  • Mae 1,961 o bobl â noddwr yng Nghymru wedi cyrraedd y DU, gyda 480 ohonynt â Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwefan Llywodraeth Cymru.