Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwirfoddolwyr yn adnewyddu caffi i roi dechrau newydd i oedolion gydag anableddau dysgu

Published: 15/06/2022

Bu i dîm o wirfoddolwyr o Shotton ddod ynghyd i adnewyddu caffi poblogaidd iawn i baratoi ar gyfer ei ail-agor ar ddydd Mawrth 14 Mehefin. Mae’r caffi, a orfodwyd i gau oherwydd y pandemig, yn fenter cyflogaeth dan gymorth sy’n cael ei redeg gan yr elusen genedlaethol Hft mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu i weithio ac i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr. 

Arweiniwyd y gwaith adnewyddu gan y cwmni gwresogi lleol CAFGas CIC. Mae’r cwmni, sy’n berchen i James Hunt, yn Gwmni Buddiannau Cymunedol, sy’n ail-fuddsoddi refeniw dros ben i fentrau cymunedol. Un fenter o’r fath yw ‘Nanny Biscuit’, grwp gwirfoddol sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â CAFGas, a enwyd yn annwyl ar ôl nain James. Bu i dîm o wirfoddolwyr o Nanny Biscuit helpu gyda’r gwaith adnewyddu. 

Cafodd y prosiect sylw gan Bencampwr Bocsio Pwysau Canol y Byd, Gerome Warburton, sy’n cael ei noddi gan CAFGas, a daeth i’r ail-agoriad ar y diwrnod mawr. 

Fel un o gwsmeriaid rheolaidd y caffi am sawl blwyddyn, dywedodd James ei fod wedi ei ysbrydoli i wneud y gwaith adnewyddu ar ôl dysgu am yr effaith negyddol roedd y pandemig wedi ei gael ar y bobl oedd yn gweithio yno, a dechreuodd gael cefnogaeth gan fusnesau lleol.

Cafodd y prosiect ymateb enfawr, gyda chefnogaeth gan sefydliadau cenedlaethol gan gynnwys Airbus, Redrow a Wates Group. Mae busnesau lleol hefyd wedi ymuno, gan gynnig amrywiaeth o offer a gwasanaethau yn hollol am ddim. Cafwyd lloriau gan Orchard Flooring, gyda Wall Lag yn cyflenwi a gosod rheiddiaduron a gwaith celf ac arwyddion yn cael eu creu gan Double Click Design. Bu i gwmnïau lleol eraill roi eu gwasanaethau gan gynnwys P&K Joinery, Mottram Decorators, Sunbelt Rentals a Thorncliffe Building Supplies.

Dywedodd Maria Williams o Hft Sir y Fflint:

“Mae’r bobl a gefnogwn wedi colli’r caffi’n fawr yn ystod y pandemig. Roedd yn ffordd wych o fod yn rhan o’r gymuned a hefyd i ddysgu sgiliau gwerthfawr megis gwasanaeth cwsmeriaid, hylendid bwyd, sgiliau arian etc. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i James ac i’r holl wirfoddolwyr a’r busnesau sy’n rhan o’r prosiect. Bydd hwn yn ddechrau newydd gwych i ni gyd.”

Bydd y caffi, a oedd yn cael ei alw yn Rowley’s Pantry yn flaenorol, yn agor o dan ei enw newydd Caffi Dai. Ysbrydolwyd yr enw gan ddarn o waith celf ar ffurf draig enfawr a fydd yn dod o’r nenfwd yn y caffi, gan greu delwedd weledol anhygoel i gwsmeriaid. Crëwyd y ddraig a’i rhoi i Hft gan y fenter gymdeithasol Rainbow Biz.

Ni all un aelod o staff aros i’r caffi agor, sef Hayley, sy’n cael ei chefnogi gan Hft yn Sir y Fflint. Meddai Hayley:

“Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn y caffi, yn enwedig defnyddio’r peiriant coffi. Rwyf eisiau dweud diolch yn fawr wrth James am yr holl waith caled. Roeddwn yn edrych ymlaen gymaint i gael ei weld.”

Roedd ail-agor y caffi yn ddigwyddiad cymunedol go iawn, gyda’r côr o’r ysgol gynradd leol Ysgol Croes Atti yn perfformio ar y diwrnod. Roedd plant o Ysgol Venerable Edward yno hefyd, wedi creu gwaith celf ar gyfer y caffi, tra bod cynghorwyr lleol, perchnogion busnes a’r cyhoedd hefyd yn bresennol. 

Mae dodrefn y caffi yn cael eu huwchgylchu gan fenter cyflogaeth arall a gefnogir gan Hft Ail Gyfle sy’n hyfforddi pobl ag anableddau dysgu i roi bywyd newydd i eitemau’r cartref a fyddai fel arall yn mynd i safle tirlenwi.

Volunteers - Hft.jpg