Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Mabwysiadu a Maethu Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol

Published: 09/03/2017

Mae Wythnos Mabwysiadu a Maethu Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn dychwelyd o 6 Mawrth 2017. Mae’r ymgyrch flynyddol hon, dan arweiniad New Family Social am annog mwy o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i archwilio maethu a mabwysiadu. Yn 2016 fe gyrhaeddodd dros 19 miliwn o bobl. Mae’r wythnos yn dod â gwasanaethau mabwysiadu a gofal maeth at ei gilydd, ar draws y DU. Bydd Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth i unrhyw un sydd am wybod mwy am faethu, ddydd Mawrth, 28 Mawrth am 7pm yng Ngwesty Beaufort Park, yr Wyddgrug. E-bostiwch maethu@siryfflint.gov.uk i gofrestru i fynychu. Bydd timau Maethu a Mabwysiadu hefyd yng Ngwyl Amrywiaeth, yn yr Wyddgrug fis Mai, fel rhan o stondin Cyngor Sir y Fflint. Mae’r nifer fwyaf erioed o bobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol bellach yn mabwysiadu ac yn maethu yn y DU, ond gyda dros 5,000 o blant mewn gofal yng Nghymrun unig, mae yna wir angen cael mwy o bobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i ystyried mabwysiadu neu faethu. Mae tua 200 o blant sy’n derbyn gofal yn Sir y Fflint ac mae tîm maethu Sir y Fflint yn galw ar bobl ystyried maethu gyda’u cyngor lleol. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r rhan fwyaf o blant sydd angen gofal maethu dros 10 oed. Rydym yn chwilio am bobl sengl, cyplau a theuluoedd sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc neu y mae eu plant eu hunain wedi tyfu ac wedi gadael gartref. “Yn ein profiad ni, rydym wedi cael gofalwyr maeth a mabwysiadwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol gwych, sydd â’r union sgiliau rydym yn chwilio amdanynt. Rydym yn credu bod gan bawb rywbeth gwahanol iw gynnig i blentyn neu berson ifanc mewn gofal, ac rydym yn croesawu unrhyw un i gysylltu â ni i wybod mwy. Am fwy o wybodaeth ewch i www.flintshirefostering.org.uk