Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yn galw ar bob cyflogwr!   Ydych chi’n cael trafferth recriwtio staff?

Published: 21/06/2022

Jobs_Welsh_AdobeStock_229293663.jpgRydym yn cynnal ein digwyddiad swyddi a gyrfaoedd cyntaf yn Nhreffynnon.   Ydy eich busnes eisiau cymryd rhan?

Mae Cymunedau am Waith  Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn galw ar gyflogwyr lleol i gymryd rhan.  Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM ac fe’i cynhelir yng nghanol dref Treffynnon dydd Iau, 28 Gorffennaf rhwng 10am a 2pm.  

Bydd yn gyfle gwych i hyrwyddo eich busnes a dod o hyd i weithwyr posibl.  Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau swyddi a gyrfaoedd galw heibio dilynol ar draws ein trefi yn Sir y Fflint, ar ôl llwyddiant y digwyddiad blynyddol a gynhaliwyd ym mis Ebrill yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

Bydd cyngor ymarferol ar gael gan gynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Murphy yn Canolfan Byd Gwaith ar 07748 881647 Paul.murphy6@dwp.gov.uk neu Nia Parry/ Janiene Davies yng Nghymunedau am Waith  ar nia.parry@flintshire.gov.uk/Janiene.davies@flintshire.gov.uk.