Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn lansio Cynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw

Published: 06/07/2022

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i weinyddu’r cynllun grant ‘Costau Byw’ £150 i helpu aelwydydd sydd â chartrefi ym mandiau treth y cyngor A-D ynghyd ag aelwydydd ym mandiau treth y cyngor A-I sy’n cael Gostyngiad Treth y Cyngor (budd-dal treth y cyngor oedd ei enw blaenorol). 

 

Mae 43,000 o daliadau wedi’u gwneud eisoes i aelwydydd cymwys er mwyn helpu â biliau ynni cynyddol. Mae hyn gyfwerth â dosbarthu cyfanswm o £6.4 miliwn a chyfradd fanteisio o 91% ar gyfer aelwydydd cymwys, diolch i’r ffordd mae’r cynllun wedi’i hyrwyddo a’r ffordd reddfol mae’r Cyngor wedi awtomeiddio taliadau i’r rhan fwyaf o aelwydydd. 

 

Wrth sôn am ddarparu’r cynllun yn llwyddiannus, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

 

“Rydym wedi blaenoriaethu talu grantiau i sicrhau bod aelwydydd yn cael y taliadau sydd eu hangen arnynt ac maen nhw’n eu haeddu. Rwy’n falch o’r ffordd yr ydym eisoes wedi prosesu 43,000 o daliadau ers i’r cynllun ddechrau ar ddechrau mis Ebrill. Mae’r Cyngor yn cael ei gydnabod fel un o’r awdurdodau lleol gorau yng Nghymru am gyflymder gwneud taliadau, yn ogystal â’r cyfraddau manteisio uchel iawn.”

 

Mae’r Cyngor hefyd wedi cael cyllid ychwanegol i ddarparu cefnogaeth dan Gynllun Cymorth Disgresiynol Costau Byw er mwyn targedu aelwydydd eraill mae’n credu sydd mewn mwyaf o angen ac a allai gael eu heithrio rhag help yn y prif gynllun hefyd. 

 

Disgwylir i Gabinet y Cyngor gyflwyno cynllun a fydd yn arwain at ddyfarnu £150 i aelwydydd ym Mandiau A i D sy’n eiddo preswyl, ond sydd wedi’u heithrio o Dreth y Cyngor. Mae’r rhain yn cynnwys aelwydydd sy’n cael eu meddiannu gan Bobl sy'n Gadael Gofal, rhai â salwch meddwl difrifol, neu pob aelwyd myfyrwyr. 

 

Darperir dyfarniadau £125 i gefnogi aelwydydd yn y Bandiau Treth y Cyngor uchaf (E i I), lle mae’r aelwyd yn cynnwys dim ond un preswylydd neu mewn achosion lle mae’r aelwydydd yn gymwys i gael gostyngiad o ran bandio gan fod yr eiddo wedi’i addasu i ddiwallu anghenion preswylydd anabl.

 

Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddiogelu teuluoedd diamddiffyn rhag tlodi, darperir taliad ‘atodol’ o £125 i aelwydydd lle mae plant yn cael Prydau Ysgol Am Ddim (ar 15 Chwefror 2022) ac a allai fod wedi cymhwyso ar gyfer y taliad £150 sylfaenol eisoes.

 

Bydd rhan fach o’r cyllid yn ôl disgresiwn yn cefnogi ymrwymiadau lles y Cyngor hefyd, sef mynd i’r afael â thlodi bwyd, a bydd yn caniatáu datblygiad parhaus ffocws bwyd ‘Well Fed’ er mwyn caniatáu i bob preswylydd, yn enwedig rhai mewn cymunedau gwledig, i gael mynediad at brydau ffres, maethlon, am brisiau fforddiadwy.

 

Dywedodd y Cyng Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Cryf:

 

“Fel Cyngor, rydym yn deall y pwysau sy’n wynebu nifer o aelwydydd yn Sir y Fflint wrth i lefelau chwyddiant gynyddu ac wrth i’r farchnad fyd-eang wthio biliau ynni i fyny’n sylweddol. Fe fydd y cynllun Disgresiynol yn dilyn cyflwyno’r prif gynllun yn llwyddiannus, ac rydym wedi ymrwymo i helpu 7,700 o breswylwyr eraill. Fe fydd y polisi Disgresiynol, ynghyd â’r prif gynllun yn sicrhau bod bron 78% o breswylwyr Sir y Fflint yn gymwys i gael grant Costau Byw bellach. 

 

“Rydym yn Gyngor ariannol gyfrifol ac oherwydd ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod preswylwyr yn parhau i gael taliadau’n gyflym, byddwn yn cysylltu â’r aelwydydd hynny sy’n gymwys i gael grant Disgresiynol cyn gynted ag sy’n bosibl.”