Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Wyneb Newydd ar y Ffordd yng Nghylchfan yr A548 yn Brokenbank (Weighbridge Road), Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy

Published: 01/08/2022

roadworks_SMALL.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi cael cyllid i roi wyneb newydd ar y ffordd yng Nghylchfan yr A548 yn Brokenbank (Weighbridge Road), Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 8 Awst ac yn para tua wythnos (gan ddibynnu ar y tywydd).

Er mwyn gallu gwneud y gwaith (dros nos) a sicrhau bod y gweithlu a defnyddwyr y briffordd yn ddiogel, bydd y ffordd ar gau rhwng 7pm a 6am a’r traffig yn mynd ar ffordd arall. 

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Mae Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr, Tarmac Trading Cyf., yn ymddiheuro am unrhyw oedi neu drafferth y gallai’r gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn ei achosi.