Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cydnabod ymrwymiad Sir y Fflint i’r iaith Gymraeg

Published: 02/08/2022

Welsh flag small.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn falch o dderbyn llythyr cymeradwyo gan y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg yn cymeradwyo eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) am y cyfnod 2022-2032.  

Diben y cynllun yw gwella gwaith cynllunio a safon addysg cyfrwng Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg a gwneud cyfraniad cadarnhaol i darged uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn credu bod yr iaith Gymraeg yn eiddo i bawb.  Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y rhai sy’n siarad Cymraeg yn y gymuned ehangach, gyda’r nod o greu sir a gwlad sy’n fwy a mwy dwyieithog. 

“Rydym eisiau i bawb o bob oedran wella eu sgiliau Cymraeg a chael y gallu i ddefnyddio’r sgiliau’n hyderus mewn unrhyw sefyllfa- gan gynnwys yn y cartref, yn y gwaith ac yn eu cymunedau.  Rydym yn chwarae ein rhan i gyfrannu at gyflawni’r targed cenedlaethol ac yn dathlu’r llythyr gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg am gymeradwyo’r WESP.”

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gefnogi, ehangu a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i ddatblygu dysgwyr sy’n gwbl ddwyieithog.   Mae hyn yn amlwg yn y buddsoddiad a wnaed gennym, gyda’n partneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, mewn addysg cyfrwng Cymraeg: 

  • Ysgol Glanrafon  - buddsoddiad o £4.2m i ddisodli’r gofod symudol gydag ystafell ddosbarth barhaol i gynyddu capasiti parhaol yr adeilad i fodloni’r galw uchel am leoedd.   Mae gan yr ysgol enw da am ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg ac mae hyn i’w weld yn ei phoblogrwydd a nifer y disgyblion.   Bydd y buddsoddiad yn cyfrannu’n uniongyrchol at yr uchelgais i wella nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yn ardal yr Wyddgrug.

  • Ysgol Croes Atti, Glannau Dyfrdwy  - buddsoddiad o £1.1m mewn prosiect a oedd nid yn unig yn gwella ac ailfodelu adeiladau’r ysgol, ond hefyd yn sefydlu grwp cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg a gofal estynedig i blant ar safle’r ysgol gan y Mudiad Meithrin.  Mae carfan gyntaf y disgyblion meithrin wedi cyrraedd diwedd eu haddysg gynradd yn awr ac maent oll yn symud i ysgol uwchradd Gymraeg Sir y Fflint, Ysgol Maes Garmon ym mis Medi.  

Ac mae Sir y Fflint yn parhau i fuddsoddi mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill gan gynnwys: 

  • Ysgol Croes Atti, y Fflint -  Bydd y prosiect yn disodli’r ysgol bresennol ar safle newydd yn y Fflint.  Mae tendrau ar gyfer contractwyr wedi’u derbyn, ac yn cael eu gwirio a’u gwerthuso ar hyn o bryd.  Nod y prosiect yw y bydd yr ysgol yn dechrau gyda lle i 240 o ddisgyblion a bydd darpariaeth gofal plant a bydd yn cael ei hadeiladu fel ysgol Di-Garbon.  Mae gan y safle le i ehangu darpariaeth i 420 o ddisgyblion pe bai’r angen yn y dyfodol. 
     
  • Mae’r Cyngor hefyd wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb am gyllid grant cyfrwng Cymraeg pellach gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r cais yn tynnu sylw at y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd yn ardal Bwcle/Mynydd Isa, fel y nodwyd yn y WESP. 

Meddai Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Sir y Fflint, Claire Homard:

“Rydym yn cydnabod fod gennym gyfrifoldeb a dyletswydd fel arweinydd cymunedol i hyrwyddo, cefnogi a diogelu’r Gymraeg er budd cenedlaethau presennol a’r dyfodol.   Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau i gyflawni hyn ac yn hyderus fod gan yr iaith Gymraeg ddyfodol llewyrchus yn Sir y Fflint.”