Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 ‘Bwyd a Hwyl’ dros yr haf yn ysgolion Sir y Fflint!

Published: 11/08/2022

Mewn wyth o ysgolion yn Sir y Fflint daeth 286 o blant rhwng 5 a 12 oed ynghyd i elwa ar y rhaglen Bwyd a Hwyl eleni.  

Hwn oedd y tro cyntaf i Ysgol Gronant ac Ysgol Glan Aber gynnig y rhaglen. 

Mae Ysgol Treffynnon, Ysgol Gynradd Queensferry, Ysgol Maesglas, Ysgol Bryn Garth, Ysgol Bryn Gwalia ac Ysgol Uwchradd Cei Connah eisoes wedi darparu’r rhaglen yn llwyddiannus mewn blynyddoedd diweddar. 

‘Bwyd a Hwyl’ yw’r enw newydd ar y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol a fu ar waith yn Sir y Fflint ers 2018, ac felly dyma’r bumed flwyddyn.

Mae’r plant yn cael brecwast, byrbryd a chinio poeth iach bob dydd gan Arlwyo NEWydd.  Mae Bwyd a Hwyl yn rhoi pwyslais mawr ar addysg maeth, ac yn annog plant i roi cynnig ar fwydydd newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau bwyd ymarferol bob wythnos. Mae Hamdden Aura yn darparu amrywiaeth helaeth o weithgareddau chwaraeon a gemau rhyngweithiol ynghyd â dewis amrywiol o weithgareddau cyfoethogi y mae pob ysgol yn eu cydlynu. Bu’r plant yn mwynhau dawnsio, sgiliau syrcas a drymio, a gweld rhai o ddarparwyr mwyaf poblogaidd y blynyddoedd diwethaf yn dychwelyd.

Bu Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet dros Addysg, yr Iaith Gymraeg, Diwylliant a Hamdden a Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn ymweld â dwy o’r ysgolion Bwyd a Hwyl yn ddiweddar - Ysgol Bryn Garth ac Ysgol Glan Aber.

Meddai’r Cynghorydd Roberts:

“Eleni byddwn yn gwahodd rhieni yn ôl i’r ysgol i eistedd â’u plant wrth y bwrdd bwyd ac ymuno yn y gweithgareddau, a hefyd yn rhoi bocs ryseitiau i bob plentyn - mae ryseitiau iach ar gardiau yn y bocs ynghyd â’r holl gynhwysion angenrheidiol i’r plant a’r rhieni eu paratoi gartref. Mae hynny’n arbennig o fuddiol wrth i gostau byw gynyddu.”

Dywedodd Claire Homard:

“Ni fyddai modd inni gynnal Bwyd a Hwyl heb ymroddiad y staff ymhob ysgol sy’n cadw’r drysau ar agor am dair wythnos i ddarparu’r rhaglen hon er budd y plant. Diolch o galon iddynt am eu holl waith caled  brwdfrydedd, yn ogystal â’r holl bartneriaid a fu’n rhan o ddarparu Bwyd a Hwyl yn Sir y Fflint eleni.”

YSGOL GLAN ABER

SHEP programme Bryn Aber (6 of 18).jpg

    SHEP programme Bryn Aber (15 of 18).jpg

 

YSGOL BRYN GARTH

SHEP programme Bryn Garth (8 of 17).jpg

Claire Homard with students from Ysgol Glan Aber  

   SHEP programme Bryn Garth (16 of 17) SMALL.jpg

 

SHEP programme Bryn Garth (17 of 17)SMALL.jpg