Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn ymuno yn Awr Ddaear WWF 2017

Published: 16/03/2017

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Awr Ddaear unwaith eto – dathliad blynyddol a byd-eang o’r blaned. Maer Awr Ddaear yn 10 oed yn 2017, a bydd y Cyngor yn dangos ei ymrwymiad i fynd ir afael â newid hinsawdd drwy ymuno â thirnodau ledled y byd megis y Senedd ym Mae Caerdydd, Pont Harbwr Sydney a Times Square yn Efrog Newydd. Am 8.30pm nos Sadwrn 25 Mawrth 2017, bydd Sir y Fflint yn cyfrannu at yr Awr Ddaear drwy annog ei weithlu i ddiffodd eu holl offer trydanol dianghenraid. Fe fydd y Cyngor hefyd yn annog preswylwyr, busnesau a grwpiau cymunedol lleol i ddiffodd eu hoffer ar gyfer #AwrDdaearCymru. Bob blwyddyn, mae tua hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan yn yr Awr Ddaear, a thrwy gymryd rhan, maent yn dangos eu bod eisiau gweld gweithredoedd er mwyn mynd ir afael â newid hinsawdd rwan. Os ydych chi awydd trefnu digwyddiad Awr Ddaear yn Sir y Fflint, cysylltwch â Leanna Jones, Swyddog Cadwraeth Ynni yn y Cartref drwy ffonio 01352 703766. I ddysgu mwy am arbed ynni yn eich cartref, ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth am insiwleiddio, gwresogi ac ynni adnewyddadwy, cysylltwch â Chanolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru drwy ffonio 0800 954 0658 neu 01352 876 040.