Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rydyn ni eisiau chi'n ôl!

Published: 30/08/2022

Wrth i ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd agosáu, mae Sir y Fflint am groesawu pawb yn ôl!

Mae’n ffaith bod presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn sicrhau addysg lwyddiannus – o’r amser y mae plentyn yn dechrau’r ysgol.

Gall plant sydd â phresenoldeb da iawn wneud y gorau o'r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt.  Maent yn fwy tebygol o ennill 5 TGAU A*- C neu fwy neu gymwysterau cyfwerth.

Gall unrhyw absenoldeb gael effaith andwyol ar gyflawniad academaidd a all arwain at lai o ddewisiadau a chyfleoedd bywyd.

Ac mae'n adio'n gyflym! Efallai bod presenoldeb o 91.1% yn swnio’n iawn, ond mewn gwirionedd mae’n golygu colli 17 diwrnod o ysgol mewn blwyddyn – sydd, ar gyfartaledd, yn golygu 1 gradd TGAU is.

Mae cyfanswm o 175 diwrnod ddim yn yr ysgol y flwyddyn.  Mae hyn yn rhoi digon o amser i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd a mynd ar wyliau.

Mae hefyd yn erbyn y gyfraith i blant o oedran ysgol gorfodol fod yn absennol o'r ysgol heb reswm da. Dylai presenoldeb fod yn flaenoriaeth ac rydym am i blant yn Sir y Fflint gael y cyfleoedd gorau sydd ar gael – rydym yma i helpu!

Os oes gennych UNRHYW bryderon am bresenoldeb, mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Lles Addysg eich ysgol neu ffonio’r Gwasanaeth Lles: 01352 704155 neu educationwelfareservice@flintshire.gov.uk.