Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi gweithdai newydd i entrepreneuriaid

Published: 17/03/2017

Mae Clwb Menter Sir y Fflint yn cynnal cyfres o weithdai sy’n dechrau ar 7 Ebrill 2017. Cynhelir y rhaglen “Llwybr at Lwyddiant” o fis Ebrill tan fis Gorffennaf, ac wedi’i lunio i helpu perchnogion busnes ddatblygu eu cynllun busnes i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i gyflawni eu hamcanion. Bydd y “mannau stopio”, fel yr adweinir y sesiynau, yn canolbwyntio ar drosolwg cynllun busnes i weld beth ellir cynnwys ym mhob adran ac i sicrhau bod y cynllun busnes yn syml, yn benodol ac yn realistig. Cynhelir y sesiynau hyn yng Nghampws Cymunedol John Summers, Queensferry, Glannau Dyfrdwy, CH6 5XP, rhwng 10.30am - 12.30pm, ar dyddiadau yw: 7 a 28 Ebrill, 12 a 26 Mai, 9 a 23 Mehefin, a 14 a 28 Gorffennaf I gofrestru ac i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Beverly Moseley ar 01244 846090 neu anfonwch e-bost Beverly.moseley@flintshie.gov.uk Bydd y sesiynau yn cael eu darparu gan Sandra Donoghue o ‘Mingle for Business’ a Janice Quinn ‘Busnes Cymru’.