Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn anrhydeddu Diwrnod y Llynges Fasnachol

Published: 05/09/2022

Ddydd Gwener, 2 Medi, fe gododd Cyngor Sir y Fflint y Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol.   Mae’r Cyngor yn ymfalchïo mewn dangos cefnogaeth i forwyr y mae’r DU yn dibynnu arnyn nhw a bydd y faner yn chwifio y tu allan i Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug dros y penwythnos.  

Ers 2000, mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr a fu’n gwarchod ein hynys yn ystod y ddau Ryfel Byd.  Rydym hefyd yn dathlu ein dibyniaeth barhaus ar forwyr masnachol presennol sy’n gyfrifol am 95% o fewnforion y DU, gan gynnwys llawer o’r bwyd rydym yn ei fwyta, y rhan fwyaf o’r tanwydd rydym yn ei losgi, a bron yr holl gynnyrch a’r nwyddau rydym yn eu cymryd yn ganiataol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Mared Eastwood:

“Fel teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth ein morwyr presennol a morwyr y gorffennol, rydym yn falch o godi’r Lluman Coch i gefnogi Diwrnod y Llynges Fasnachol.  Mae gan y Llynges Fasnachol ran bwysig yn ein hanes fel cenedl ac mae hi’n dal i gludo cyflenwadau hanfodol yn ddiogel at ein glannau.”

Merchant Navy Flag (1 of 5).jpgMerchant Navy Flag (5 of 5).jpg