Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg Estyn Cadarnhaol ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned 

Published: 22/09/2022

NEWales ACL logo Facebook cover photo.jpgMae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad ar Ddarpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar gyfer Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Wrecsam a Sir y Fflint. 

Cynhaliwyd yr Arolwg ym mis Mai 2022. 

Nodwyd y canfyddiadau allweddol fel: 

• Mae’r Bartneriaeth, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2021, yn cael ei harwain yn dda ac mae cefnogaeth gref gan y ddau Awdurdod Lleol. 

• Mae’r Arweinwyr wedi gosod dyheadau uchelgeisiol ar gyfer y bartneriaeth, ei harweinyddion, y darparwyr a’r dysgwyr. 

• Mae gweledigaeth y bartneriaeth yn uchelgeisiol, ac yn adlewyrchu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu yn y gymuned. 

• Mae cydbwysedd da ac ystod ddefnyddiol o gyrsiau i oedolion. 

• Mae’r dysgwyr yn gwneud cynnydd da yn eu sesiynau llythrennedd, rhifedd, digidol ac ESOL. 

• Mae sawl dysgwr yn magu hyder a’u parodrwydd i symud ymlaen i ddysgu ffurfiol. 

• Mae’r tiwtoriaid yn sefydlu perthnasoedd da gyda’u dysgwyr. 

• Mae gan y Bartneriaeth ddealltwriaeth realistig o’i chryfderau a’r meysydd i’w gwella. 

Mae pedwar argymhelliad o’r arolwg mewn perthynas â chynyddu cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, olrhain cynnydd hirdymor y dysgwyr, datblygu hunanwerthuso a gwella gwaith hyrwyddo darpariaeth y bartneriaeth.

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg:

“Rwy’n falch iawn bod Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Wrecsam a Sir y Fflint wedi derbyn adroddiad cadarnhaol iawn gan Estyn yn dilyn yr arolwg diweddar. 

“Fel aelod o’r Bartneriaeth, rwyf wedi gweld gwahaniaeth y gwaith i’r dysgwyr yn Wrecsam.   Mae hyn yn deillio o gydweithrediad agos yr holl bartneriaid sydd wedi ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd helaeth ar gyfer dysgwyr Wrecsam a Sir y Fflint.   Mae’r rhain yn eu tro yn helpu dysgwyr i nodi a datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth a fydd yn rhoi hyder iddynt symud ymlaen i ddysgu pellach, swyddi neu hyfforddiant. 

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r arolwg, gyda’r diolch mwyaf i’r dysgwyr eu hunain.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Rwy’n croesawu’r gydnabyddiaeth ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac rwy’n falch iawn bod yr arolygwyr wedi nodi’r cynnydd a wnaed gan y gwasanaeth gwerthfawr hwn yn Sir y Fflint.  Mae’n  cydnabod gwaith caled pawb sy’n ymwneud â’r bartneriaeth.  

“Mae’n adroddiad gwych a dylai pawb fod yn falch o’r gwaith caled a wnaed a’r ymroddiad sydd wedi arwain at y cyflawniad hwn.   Mae’r adroddiad wedi nodi’r ystod o gyrsiau sydd ar gael a’r cynnydd a wneir gan y dysgwyr.  

“Rydym yn nodi’r argymhellion ar gyfer gwella ond hefyd yn nodi bod yr adroddiad yn cydnabod bod y Bartneriaeth yn cael ei harwain yn dda, yn uchelgeisiol ac yn derbyn cefnogaeth gref gan yr awdurdodau lleol.” 

Edrychwch ar eu tudalen Facebook i weld yr hyn sydd ar gael  facebook.com/DCiOGogleddDdwyrainCymru.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.