Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II - newidiadau i wasanaethau’r Cyngor

Published: 14/09/2022


Mae dydd Llun 19 Medi wedi’i ddatgan yn wyl banc cenedlaethol i nodi angladd gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Fel arwydd o barch, a ble bo hynny’n bosibl, bydd y rhan fwyaf o'r gwasanaethau y mae’r Cyngor yn eu darparu i’r cyhoedd wyneb yn wyneb ar gau am y diwrnod.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor: 

“Gyda thristwch dwys rydym yn nesáu at angladd gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II ddydd Llun 19 Medi. Mae datgan y diwrnod yn wyl banc cenedlaethol yn caniatáu i weithwyr y Cyngor a phobl Sir y Fflint ymuno ag eraill ar draws y DU a’r byd i ddangos eu parch tuag at y Frenhines a’i theyrnasiad hir. 

Ysgolion
Bydd holl ysgolion y sir ar gau.

Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
Yn unol â’r hyn y mae llawer o gynghorau eraill wedi’i benderfynu, ni fydd unrhyw gasgliadau gwastraff cartref ac ailgylchu ddydd Lun 19 Medi a bydd yr holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gau.   

Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu a fyddent fel arfer yn digwydd ar ddydd Llun yn awr yn  digwydd ddiwrnod yn gynt, sef dydd Sul 18 Medi. Gofynnwn i breswylwyr roi eu cynwysyddion allan ar ymyl y palmant erbyn 7am fore dydd Sul.  

Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu
Bydd holl ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu ar gau.

Gwasanaethau Cymdeithasol 
Bydd gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol a Therapi Galwedigaethol ynghau, heblaw am sefyllfaoedd brys.

Taliadau Budd-dal
Bydd taliadau budd-dal a wneir fel arfer ar ddydd Llun yn cael eu gwneud ddydd Mawrth 20 Medi.  

Y Gwasanaeth Cofrestru
Bydd y Gwasanaeth Cofrestru ar gau.

Aura Cymru
Bydd pob canolfan hamdden a llyfrgell ar gau.


Bydd yr holl wasanaethau’n mynd yn ôl i’r drefn arferol ddydd Mawrth 20 Medi.