Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Seremoni OBE yn y Palas

Published: 21/03/2017

Mae pennaeth ysgol uwchradd Sir y Fflint, a gafodd ei dyfarnu gyda OBE yn rhestr Anrhydeddaur Flwyddyn Newydd, wedi bod i Balas Buckingham i gasglu ei gwobr. Cafodd Mrs Rosemary Jones, pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed, ei chydnabod am ei chyfraniad i addysg. Mae wedi arwain tîm yr ysgol o athrawon a staff cefnogi i ddatblygu Cymuned Ddysgu Eithriadol, lle mae cyflawniad a lles yn flaenoriaethau. Barnwyd safonau yn yr ysgol i fod yn Ardderchog gan Estyn yn 2015 ac yn 2016 enillodd yr ysgol Wobr Ansawdd Cymru. Meddai Rosemary Jones: “Wrth i’r Frenhines gyflwyno’r fedal, fe holodd am ein hysgol. Gwrandawodd yn astud wrth i mi sôn wrthi am ein staff a’n disgyblion rhagorol. Fe wnes i hefyd siarad am gymuned gefnogol Bwcle a’i hymrwymiad i gefnogi addysg pobl ifanc. Roedd yn brofiad gwych cael cyfarfod y Frenhines, yn ei 65ain blwyddyn o deyrnasu, ac i gael y gydnabyddiaeth hon oherwydd cyflawniadau Tîm Elfed”. Mae gan Rosemary ugain mlynedd o brofiad arwain ysgol. Dechreuodd ei gyrfa addysgu yn y 1970au yn Llundain. Ar ôl symud i Ddyffryn Clwyd yn 1984, mae wedi gweithio yn Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Glan Clwyd ac yn ystod y deng mlynedd diwethaf fel pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed.