Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arolygon diogelwch cofebion
Published: 30/06/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau â’r rhaglen arolygu diogelwch
cofebion, gyda cham nesaf yr arolygon wedi’u trefnu ar gyfer y
mynwentydd canlynol yn ystod mis Gorffennaf 2014:
· Cei Connah, Ffordd y Bryn
· Bwcle
· Yr Hôb Bryn y Grog
· Hen Fynwent yr Hôb
· Rhewl
Bydd pobl cofeb yn y mynwentydd hyn yn cael eu profi gan ddefnyddio dull
cyson. Bydd yr arolygon yn cael eu cyflawni gan staff profiadol
sydd wedi cwblhau hyfforddiant arolygu diogelwch cofebion ac yn
gymwys yn y maes sensitif hwn o waith.
Os penderfynir bod cofeb yn anniogel ond nad yw’n cynrychioli perygl
uniongyrchol, bydd y Cyngor yn ceisio cysylltu â Pherchennog
Cofrestredig y Bedd cyn trefnu bod cymorth dros dro’n cael ei osod
tu cefn ir garreg, bydd rhybudd yn cael ei roi ar gefn y gofeb i
hysbysu’r teuluoedd nad yw’r Awdurdod wedi gallu cysylltu â hwy, o’r hyn
sydd wedi digwydd a phwy y dylid cysylltu â hwy.
Os oes unrhyw un o’r cofebion yn anniogel ac yn rhy fawr i’w
diogelu dros dro byddant yn cael eu gosod yn fflat yn ofalus ar
flociau pren gyda rhybudd wedi’i osod ar y gofeb a, lle bo modd, byddwn yn
cysylltu â pherchnogion y bedd.
Mae’n bwysig bod y Cyngor yn cwblhau’r gwaith hwn i sicrhau diogelwch
pob un sy’n ymweld â’r mynwentydd a phawb sy’n gweithio ynddynt.
Hoffai’r Cyngor sicrhau’r teuluoedd eu bod yn ymwybodol o bryderon allai’r
unigolion mewn profedigaeth bryderu yn eu cylch a bydd y gwaith yn cael ei
gyflawni mewn dull parchus.
I gael rhagor o wybodaeth ynglyn â rhaglen ddiogelwch cofebion y Cyngor
cysylltwch â Swyddfa’r Gwasanaethau Profedigaeth ar 01352 703365 neu 703361 neu
703362.