Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfleoedd cyflogaeth a gwybodaeth ar gael

Published: 03/04/2017

Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yn Neuadd Ddinesig Cei Connah dros gyfnod o ddau ddiwrnod ym mis Ebrill. Ddydd Mercher 26 Ebrill, cynhelir Diwrnod Gwybodaeth a Sgiliau gyda chyngor ymarferol ar sut i ddod o hyd i swydd, yn ogystal â gweithdai llwyddo mewn cyfweliad, ysgrifennu CV a llenwi ceisiadau am swyddi. Ddydd Iau 27 Ebrill, cynhelir Ffair Swyddi a bydd busnesau sydd â swyddi lleol a lleoliadau profiad gwaith yn bresennol i drafod y cyfleoedd ar gael. Bydd partneriaethau addysg bellach ac addysg uwch hefyd wrth law i drafod yr hyfforddiant a chyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned. Bydd cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn bresennol i hyrwyddo cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheiny sydd eisiau cychwyn eu busnes eu hunain. Bydd Gyrfa Cymru yn cynnig cymorth gyrfaoedd wedi ei deilwra ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed ynghyd â mentoriaid y rhaglen Esgyn sy’n darparu cymorth un i un ar gyfer unigolion o fewn ardal Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi bod yn ddi-waith ers chwe mis neu fwy ac sy’n byw mewn aelwyd ddi-waith. Bydd Ymgynghorydd Rhieni Cymunedau yn Gyntaf hefyd ar gael i gynnig cefnogaeth a chyngor i rieni sydd eisiau dychwelyd i’r gweithle, gan roi cyngor ar fudd-daliadau ac edrych ar swyddi gwirfoddol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia yn Cymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 neu Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647.