Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Achubwch ein Twyni!

Published: 23/03/2017

Mae Ceidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, ynghyd â’u byddin o wirfoddolwyr, wedi bod yn plannu coed Nadolig ar y twyni dros y mis diwethaf. Ym mis Rhagfyr, gwnaethpwyd apêl gan y tîm i annog preswylwyr lleol i ailgylchu eu coed Nadolig a chyfrannu at y gwaith parhaus o adfer cynefin twyni tywod pwysig. Bu dros 40 myfyriwr peirianneg o Goleg Cambria’n gweithio gyda’r Ceidwaid a’u gwirfoddolwyr, dros gyfnod o dri diwrnod ym mis Mawrth, i blannu 250 coeden a gosod dros 100 metr o ffens. Llwyddasant i atgyweirio saith man isel yn y twyni blaen ar draeth Talacre gan ddefnyddio’r coed a ffens a fydd nawr yn dal y tywod a galluogi i’r twyni dyfu ac i lystyfiant ail-sefydlu. Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Partneriaeth Talacre: “Roedd yn brosiect braf iawn i fod yn rhan ohono, gweithio gyda myfyrwyr a oedd yn ddigon bodlon i dorchi eu llewys a gwneud gwahaniaeth i’r amgylchedd. Gweithiasant mor galed, bod hyd yn oed amser dros ben i wneud ychydig o dasgau ychwanegol, fel atgyweirior ffens ar gyfer y Llyffaint Cefn Felyn sydd i’w gweld ar y safle. “Mae derbyn cymorth ein gwirfoddolwyr gyda gwaith cadwraeth yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn ein galluogi ni i fynd i’r afael â thasgau na fyddent yn bosib oni bai am ein gwirfoddolwyr. Felly byddem yn annog unrhyw ysgol, coleg, grwp cymunedol neu fusnes i gysylltu â ni os ydynt yn dymuno chwarae rhan weithredol wrth warchod am ein hamgylchedd.” Myfyrwyr gyda’r Ceidwad prentis, Dave Bryan a’r Ceidwad Tim Johnson