Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith i ddechrau ar system gorfodi â chamerâu ar yr A548

Published: 24/03/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu dechrau gwaith i osod system gorfodi “cyflymder cyfartalog” â chamerâu ar hyd yr A548 Sealand Road, mewn partneriaeth â Gosafe. Bwriedir i’r gwaith ddechrau yr wythnos nesaf, ac mae disgwyl i’r camerâu ddechrau gweithredu o fewn yr wythnosau sydd i ddod. Bydd arwyddion priodol yn cael eu gosod ar y pwyntiau mynediad a bydd arwyddion ‘camerâu’ ychwanegol yn cael eu gosod ar hyd y darn o Sealand Road sy’n cael ei effeithio gan y cynigion. Bydd y system camerâu cyflymder newydd yn rheoli cyflymder gyrwyr ar hyd y ffordd hon, sydd wedi gweld nifer o ddamweiniau difrifol o ganlyniad i yrru yn y gorffennol.