Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint mewn Busnes

Published: 11/04/2017

Mae digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint ar ei newydd wedd – lansiwyd Sir y Fflint mewn Busnes mewn Brecwast Arloesi Busnes a gynhaliwyd yn ddiweddar. Cyfarfod Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy oedd y lleoliad perffaith i gyflwyno’r rhaglen newydd o ddigwyddiadau ar gyfer 2017 – gan newid o wythnos o ddigwyddiadau, i raglen o ddigwyddiadau wedi eu trefnu drwyr flwyddyn. Ymhlith y rhain mae digwyddiadau’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol a phresenoldeb ar-lein, cyllid, twf busnes a chyfleoedd ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd lleol i fyfyrwyr ysgol a choleg. Bydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sy’n hynod boblogaidd, yn parhau i gael eu cynnal yn Neuadd Sychdyn ar 20 Hydref. Dywedodd Prif Swyddog dros Gymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: “Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi tyfu o nerth i nerth dros y 10 mlynedd ddiwethaf ac wedi croesawu dros 23,000 o gynrychiolwyr yn ystod y cyfnod hwnnw. Roeddem yn teimlo fod cyfle nawr i ddatblygur rhaglen a chyflwyno digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i annog hyd yn oed mwy o fusnesau i gymryd rhan.” Dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Barry Jones: “Dyma fenter wych a fydd yn hyrwyddo economi rhagorol Gogledd Ddwyrain Cymru ymhellach. Yr hyn sy’n rhyfeddol yw bod cysylltiad traws ffiniol o bwysigrwydd mawr ac mae’r Sir, drwy fod yn aelod o Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, yn dangos doethineb sylweddol. Ni yw’r lleoliad mwyaf effeithiol ym Mhrydain o ran gweithgynhyrchu ar unig economi traws ffiniol ym Mhrydain - mae ein galluogrwydd gweithgynhyrchu yn syfrdanol.