Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Agored Ddoe a Heddiw Y Parlwr Du

Published: 18/04/2017

Mae partneriaeth rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a Grwp Treftadaeth Gymunedol y Parlwr Du yn cynnal diwrnod agored ym Mhentre Peryglon, Ffordd yr Orsaf, Talacre dydd Sul 23 Ebrill o 11am-4pm. Bydd digonedd o weithgareddau drwy gydol y dydd gyda rhywbeth i bob oed. Mae Cylchdaith sy’n cysylltur Parlwr Du a Thalacre wedi ei datblygu gyda chymorth cyllid gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae cyfres o baneli ar hyd y llwybr a thaflen yn egluro hanes Pwll Glor Parlwr Du, y pwll dwfn olaf yng Ngogledd Cymru, a phwysigrwydd hanesyddol Aber Afon Dyfrdwy ar gyfer llongau. Fe fu disgyblion o Ysgol Mornant ac Ysgol Bryn Garth yn gweithio gyda’r gwneuthurwr print Ruth Thomas i gynhyrchu print o longau, adar a mwyngloddio ac maent yn addurno’r daflen ar paneli. I’r rhai sy’n defnyddio ffonau clyfar, fe fydd cyfle i brofi’r ap newydd yr ydym yn ei ddatblygu i helpu ymwelwyr i grwydro’r ardal. Bydd Cambria Band yn perfformio cyn i’r llwybr gael ei agor gan aros i gynnal gweithdai cerddoriaeth drwy gydol y dydd. Bydd Ruth Thomas yn helpu teuluoedd i wneud printiau o blu a gwrthrychau naturiol eraill. Hefyd bydd sesiynau sgiliau syrcas a phaentio wynebau ac felly bydd digon i ddiddanu’r teulu. Rydym yn casglu atgofion am y pwll i’w defnyddio mewn llyfryn ac ar-lein a hoffem i gyn lowyr a’u teuluoedd ddod ag unrhyw hen luniau neu eitemau coffa eraill gyda nhw a dod i weld beth rydym wedi ei gasglu eisoes. Byddwn yn sganio neu’n tynnu lluniau or eitemau ar y diwrnod fel y gallwch fod yn dawel eich meddwl na fyddant yn cael eu niweidio. Bydd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Glowyr Gogledd Cymru yn dod â’u fan symudol gyda mwy o arddangosfeydd ac arteffactau glofaol. Bydd y Gymdeithas Gwarchod Adar yn dod ag arddangosfeydd a bydd cynrychiolwyr yn bresennol yn y guddfan adar i gynorthwyo ymwelwyr i ddysgu mwy am bwysigrwydd ecolegol yr aber, sy’n bwysig yn rhyngwladol am ei adar, ac i adnabod yr adar sy’n byw yma. Y digwyddiad hwn yw’r cyntaf o gyfres fydd yn cael ei ariannu gyda’n grant o Gronfa Treftadaeth y Loteri i helpu i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth y pwll glo a’r aber o’i gwmpas ac rydym yn gobeithio y bydd llawer yn dod ir digwyddiad. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm y Gwasanaeth Cefn Gwlad ar 01352 703900 neu e-bostiwch countryside@flintshire.gov.uk.