Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyfodol Mwy Disglair i Gyn-filwyr a’u Teuluoedd

Published: 21/04/2017

Bydd cyn-filwyr a’u teuluoedd ar draws gogledd Cymru’n elwa o gymorth ychwanegol gan awdurdodau lleol wedi dyraniad o £230,000 gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Bydd yr arian yn mynd tuag at gyflogi dau Swyddog Cyswllt ir Lluoedd Arfog a fydd yn ategu gwaith i ddarparu Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog ar draws y rhanbarth, drwy sicrhau bod rhai syn gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael eu trin yn deg a chyda parch. Bydd cylch gwaith y swyddogion yn cynnwys adolygu polisïau a gweithdrefnau cyfredol mewn meysydd syn cynnwys Adnoddau Dynol, Gofal Cymdeithasol, Addysg a Thai. Bydd y swyddogion hefyd yn sicrhau bod anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu hystyried mewn cynlluniau strategol newydd a newidiadau i wasanaethau syn gysylltiedig ag, er enghraifft, Deddf Lles Cenedlaethaur Dyfodol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Bydd y swyddogion yn ceisio pennu maint a nifer y rhai sydd yng Nghymuned Lluoedd Arfog y rhanbarth ac yn ceisio sefydlu dulliau cyfathrebu clir fel bod gwybodaeth gan ac at aelodaur gymuned yn llifon fwy effeithiol. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar hyfforddi staff rheng flaen, er mwyn iddyn nhw allu deall a chefnogi anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yn well. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Ar ôl derbyn gwobr efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gynharach eleni, mae Sir y Fflint yn falch iawn o glywed y newyddion hwn. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi personél a chyn filwyr y lluoedd arfog a byddwn yn gweithio’n agos gydag awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru i sicrhau y bydd y Wobr hon yn cael ei defnyddio i ddatblygu cyfleoedd ymhellach iddyn nhw ac aelodau ou teuluoedd.” Bydd yr arian yn cael ei weinyddu gan Gyngor Wrecsam ar ran chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru.