Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eich pleidlais chi yw hwn!

Published: 02/05/2017

Dydd Iau 4 Mai yw’r diwrnod lle bydd pleidleiswyr yn Sir y Fflint ac ar draws Cymru yn cael dweud eu dweud ar bwy fydd yn eu cynrychioli ar eu cyngor sir a’u cynghorau tref a chymuned lleol. Dylai pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio fod wedi derbyn cerdyn yn nodi manylion yr orsaf bleidleisio lle y gallant fwrw eu pleidlais. Does dim angen i chi ddod â hwn ar y diwrnod, ond os nad ydych wedi derbyn cerdyn yna ffoniwch 01352 702327, 702329 neu 702412 os gwelwch yn dda i ganfod lle mae eich gorsaf bleidleisio - maen bosibl na fydd yr un fath âr tro diwethaf i chi bleidleisio! Bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, ac maent ar agor o 7am tan 10pm ddydd Iau, 4 Mai. Pan gyrhaeddwch, fe ofynnir i chi gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad, a byddwch yn derbyn eich papur pleidleisio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, bydd staff ar gael i’ch helpu. Mae yna nifer o Wardiau lle nad oes cystadleuaeth am y seddi ac ni fydd y Gorsafoedd Pleidleisio ar agor. Caiff y Gorsafoedd Pleidleisio hynny eu rhestru isod: Llyfrgell Gymunedol Bagillt, Bagillt Neuadd Gymunedol Trem Afon, Ffordd Treffynnon, Bagillt Adain Gymunedol, Ysgol Bryn Garth, Penyffordd Canolfan Gymunedol, Talacre Canolfan, Ffynnongroyw Ysgoldy Eglwys Unedig Ddiwygiedig Sant Ioan, Y Fflint Neuadd Gymunedol Cilfan, Cornist, Y Fflint Canolfan Ieuenctid, Ffordd y Gogledd, Treffynnon Canolfan Gymunedol, Holway Neuadd Eglwys Dewi Sant, Lôn Dewi Sant, Yr Wyddgrug Canolfan Ieuenctid, Penyffordd Ysgol Ioan Fedyddiwr, Ffordd Caer, Penymynydd Canolfan Gymunedol, Hafan Deg, Treuddyn