Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansio Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2014
Published: 27/06/2014
Dyma fydd yr wythfed gwaith i ni gynnal Wythnos Fusnes Sir y Fflint, sy’n cael
ei chynnal eleni rhwng 7 a 10 Hydref.
Mae’r Wythnos Fusnes yn un or digwyddiadau pwysicaf oi fath yn y rhanbarth,
gan ddenu tua 2,000 o fusnesau pob blwyddyn. Maen cefnogi cymuned fusnes y
sir, yn ogystal â busnesau’r rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i
ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi
ynddo.
Mae’r Wythnos Fusnes wedi esblygu yn barhaus i ddiwallu anghenion syn newid,
ac mae datblygiadau newydd ar gyfer 2014 yn cynnwys penderfyniad yr Arglwydd
Barry Jones i arwain y digwyddiad i’r dyfodol. Mae gan yr Arglwydd Barry Jones
brofiad enfawr o weithio i sicrhau ffyniant diwydiannau yng Nglannau Dyfrdwy a
Chymru. Yr oedd hefyd yn un or Aelodau Seneddol hiraf yn Nhyr Cyffredin ac yn
Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Y thema ar gyfer y digwyddiad eleni yw ‘Twf a bydd yn canolbwyntio ar helpu
busnesau yng ngogledd Cymru i ddelio âr heriau newydd wrth i ni ddod allan or
dirwasgiad. Bydd ffocws penodol ar weithgynhyrchu, sy’n adlewyrchur ffaith bod
gweithgynhyrchu yn rhan allweddol or economi ranbarthol.
Mae gan ogledd Cymru oddeutu 150 o gwmnïau yn y sector gweithgynhyrchu sy’n
cyflogi tua 25,000 o bobl. Maer rhan fwyaf or swyddi hyn yng ngogledd
ddwyrain Cymru, gyda 34% or holl swyddi yn Sir y Fflint mewn diwydiant
gweithgynhyrchu.
Mae uchafbwyntiau’r rhaglen eleni yn cynnwys; rôl addysg uwch mewn diwydiant,
sgiliau ar gyfer y dyfodol, Canolfan arfaethedig Gweithgynhyrchu Uwch Gogledd
Cymru, Coridor Technoleg yr A55/M56 a thechnolegau syn dod ir amlwg yn y
diwydiant ceir, awyrofod ac ynni.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Mae
Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn helpu ein busnesau lleol ac yn rhoi ein hardal
ar y map. Maen bartneriaeth unigryw a llwyddiannus iawn rhwng y sectorau
cyhoeddus a phreifat. Rwyf wrth fy modd bod yr Arglwydd Barry Jones wedi cytuno
i fod yn llywydd ar gyfer yr Wythnos ac rydym ni’n ffodus iawn i gael
llysgennad mor wych ar gyfer ein sir a’n diwydiant.
Dywedodd yr Arglwydd Barry Jones: “Maen anrhydedd fawr i fod yn rhan o Wythnos
Fusnes Sir y Fflint 2014.
“Maer tîm yn gweithio efo busnesau ar draws y sir ac eleni maen nhw’n
canolbwyntio ar weithgynhyrchu. Mae Sir y Fflint yn prysur ddod yn bencampwyr
gweithgynhyrchu ym Mhrydain gyda 34 y cant o swyddi’r sir yn y diwydiant hwnnw.
“Rydym ni’n gobeithio datblygu’r Wythnos Fusnes yn ystod yr ychydig flynyddoedd
nesaf er mwyn ei gwneud hyn yn oed mwy llwyddiannus.
Ychwanegodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:
“Rydym ni wrth ein bodd y bydd yr Arglwydd Barry Jones yn ymuno â ni eleni i
adeiladu ar ein llwyddiant.
“Fel Cyngor, rydym ni’n cydweithio efo busnesau lleol er mwyn cyflawni
canlyniadau llwyddiannus i greu cyfleoedd o’r newydd a chanolbwyntio ar
sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd ac ar brosiectau fel Cynghrair Mersi
Dyfrdwy.
“Hoffwn ddiolch ir holl fusnesau syn cefnogi Wythnos Fusnes Sir y Fflint.
I archebu stondin neu i noddi’r digwyddiad, neu i gael mwy o wybodaeth am yr
holl ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fusnes, ewch i
www.flintshirebusinessweek.co.uk neu cysylltwch âr tîm Wythnos Fusnes ar 01352
703219.
Pennawd Llun: Gwesteion yn lansiad Wythnos Fusnes Sir y Fflint.