Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		“Rascals Bach Iach”
  		Published: 04/05/2017
Mae Grwp Chwarae Little Rascals yng Nghei Connah yn dathlu ar ôl dod yn gylch 
chwarae cyntaf yn Sir y Fflint i gwblhau Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy.
Gweithiodd staff y grwp chwarae gyda phlant a rhieni i wella chwe maes y mae’r 
cynllun yn ymdrin â nhw:
· Maeth ac Iechyd y Geg 
· Gweithgareddau Corfforol / Chwarae Bywiog
· Iechyd Meddyliol ac Emosiynol, Lles a Pherthnasau 
· Amgylchedd 
· Diogelwch 
· Hylendid 
· Iechyd a Lles yn y Gweithle 
Mae hwn yn gynllun cenedlaethol a reolir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n cael 
ei gydlynu yn Sir y Fflint fel estyniad i’r Cynllun Ysgolion Iach. 
Mae Little Rascals wedi bod yn cymryd rhan yn y Cynllun Cyn-ysgol Iach a 
Chynaliadwy ers 2013, gan dderbyn cyngor, hyfforddiant a chymorth gydag 
adnoddau. Maen nhw wedi llwyddo i hyrwyddo hylendid, gweithgarwch corfforol, 
bwyta’n iach a sgiliau cymdeithasol ymhlith y plant yn eu gofal.  
Mae Meithrinfa Ddydd Sunray, Nercwys, Amanda Calloway (Gwarchodwr Plant o 
Dreuddyn) a Grwp Chwarae’r Santes Gwenffrewi hefyd wedi cwblhau pob agwedd ar y 
cynllun yn ddiweddar.
Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Sir y Fflint, Ian Budd:
“Mae arferion iach yn cael eu sefydlu yn y blynyddoedd cynnar, ac felly mae 
gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar yn bobl ddelfrydol i annog byw’n 
iach. Mae ganddyn nhwr potensial i wneud cyfraniad enfawr at iechyd a lles y 
plant yn eu gofal ac mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn eu helpu nhw 
i wneud hynny. Mae staff yr holl leoliadau wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol 
ir cynllun ac i les y plant, ac maen nhw’n haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith 
caled.”