Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Ffair Swyddi

Published: 12/05/2017

Daeth dros 400 o bobl i ddigwyddiad deuddydd yn llawn gwybodaeth am swyddi, sgiliau a hyfforddiant yn Neuadd Ddinesig Cei Connah. Roedd y digwyddiad hwn wedi ei anelu at oedolion a phobl ifanc syn chwilio am waith ac roedd yn ddigwyddiad ar y cyd llwyddiannus arall rhwng Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru. Cefnogwyd y digwyddiad gan 32 darparwr a 31 cyflogwr, gyda dros 300 o swyddi gwag ar gael mewn amrywiaeth o sectorau. Mae adborth darparwyr (sefydliadau addysg, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli ac ati) yn dangos bod safon yr ymgeiswyr a lefel yr ymgysylltu yn uwch na’r llynedd, gyda mwy o gyfleoedd i gael sgyrsiau un-i-un. Ac oherwydd safon uchel y mynychwyr, roedd ar rai cyflogwyr eisiau cyfweld â nhw yn y fan a’r lle. Yn ogystal â gwneud cais am swyddi gwag roedd ceiswyr gwaith yn gallu cwrdd â chyflogwyr, darparwyr addysg a sefydliadau cefnogi eraill a gofyn cwestiynau iddynt. Cynhaliwyd dau weithdy yn ystod y digwyddiad. Roedd un gweithdy, a ddarparwyd gan Hyfforddiant Gogledd Cymru, yn gweithio gyda mynychwyr ar wella eu sgiliau meithrin tîm. Roedd y gweithdy arall, a ddarparwyd gan The Meee Project, yn canolbwyntio ar gyflogaeth, addysg a menter. Mae The Meee Project (My Education, Employment and Enterprise) yn cynnig gweithdai arbennig sy’n addysgu technegau ar gyfer ymdopi gyda straen a gor-bryder pan fo rhywun yn cael trafferth ffitio i mewn – yn yr ysgol, yn y gwaith neu’r gymdeithas ehangach. Roedd y ddau weithdy dan eu sang ac roedd adborth y mynychwyr a’r cyflwynwyr yn gadarnhaol dros ben. Dywedodd Prif Swyddog Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: “Unwaith eto, roedd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn llwyddiant ysgubol ac yn rhoi cyfle i’r mynychwyr gwrdd â chyflogwyr, sefydliadau addysg ac asiantaethau cymorth. Mae cyflogwyr wedi dweud wrthym ni fod y digwyddiad wedi bod yn brofiad cadarnhaol iddyn nhw. Mae’n hanfodol bod busnesau yn denu ac yn recriwtio’r bobl iawn ar gyfer eu swyddi. Mae digwyddiadau fel yr un yma yn gyfle iddyn nhw wneud hynny.”