Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofrestrwch i bleidleisio yn etholiad cyffredinol Seneddol y DU

Published: 15/05/2017

Ar ddydd Iau, 8 Mehefin bydd pleidleiswyr yn mynd i’r gorsafoedd pleidleisio i ethol Aelodau Seneddol ar gyfer y ddwy etholaeth seneddol yn Sir y Fflint, Delyn ac Alun a Glannau Dyfrdwy. Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw dydd Llun 22 Mai. Gall unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad presennol gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio Os na fyddwch yn gallu bwrw eich pleidlais yn bersonol ar 8 Mehefin, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu trwy ddirprwy. Mae pleidleisio drwy’r post yn ddewis hawdd a chyfleus yn lle pleidleisio’n bersonol. Yng Nghymru, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais drwy’r post ar gyfer etholiad cyffredinol y DU yw 5pm dydd Mawrth, 23 Mai. Mae pleidlais trwy ddirprwy yn eich caniatáu i enwebu unigolyn dibynadwy i fwrw eich pleidlais ar eich rhan. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy yn etholiad cyffredinol y DU yw 5pm ar ddydd Mawrth, 31 Mai. Dywedodd Colin Everett, y Swyddog Canlyniadau: “Gall unrhyw un sy’n amau o gwbl a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio ar 8 Mehefin gysylltu â Swyddfa’r Etholiadau ar 01352 702412. Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Swyddfa Comisiwn Etholiadol Cymru: “Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod pobl sydd wedi symud ty yn ddiweddar yn llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio. Os ydych wedi symud ty yn y misoedd diwethaf, tydi gwneud cais i dalu treth y cyngor ddim yn golygu eich bod wedi cael eich ychwanegu at y gofrestr etholiadol. Gellir cofrestru i bleidleisio ar lein ac maen cymryd llai na phum munud i lenwir ffurflen.