Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyswllt Sir y Fflint - Cei Connah

Published: 30/06/2014

Mae canolfan gwasanaeth cwsmeriaid y cyngor newydd wedi agor ei drysau yng Nghei Connah, y trydydd yn y rhaglen Cysylltiadau Sir y Fflint. Wedii lleoli ar Wepre Drive mae’r ganolfan Cysylltiadau Sir y Fflint newydd yn darparu mynediad lleol i Wasanaethau’r Cyngor, Llyfrgell a Chanolfan Ddysgu Cei Connah ac Arddangosfa Dreftadaeth newydd. Yn ychwanegol at y Llyfrgell a’r Ganolfan Ddysgu bydd ymgynghorwyr hyfforddedig wrth law i helpu cwsmeriaid i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau allweddol y Cyngor Sir, megis tai, Strydlun, budd-daliadau lles a chyngor, Bathodynnau Glas, Teithio Rhatach a Threth y Cyngor. Bydd y ganolfan hefyd yn galluogi asiantaethau partner i gynnal cymorthfeydd cymunedol. Yr oriau agor ar gyfer Cysylltiadau cyfunol newydd Sir y Fflint, y Llyfrgell a’r Arddangosfa Dreftadaeth yw: Dydd Llun a dydd Mawrth - 8:30am tan 7pm Dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener - 8.30am tan 5.30pm Dydd Sadwrn - 9am tan 12 canol dydd Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: ”Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, hygyrch ir holl drigolion syn byw yn ardal Cei Connah a Glannau Dyfrdwy. Gan adeiladu ar lwyddiant Cysylltiadau Sir y Fflint yn Nhreffynnon ar Fflint rydym yn gobeithio gwella ein gwasanaethau i gwsmeriaid gan roi cyfle i breswylwyr siarad wyneb yn wyneb gydag ymgynghorwyr. Maer rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd i sefydliadau cyhoeddus eraill i weithio mewn partneriaeth gydar cyngor yn cynnig cymorthfeydd a gweithdai i gydgysylltu gwasanaethau o dan yr un to. Bydd Cysylltiadau Sir y Fflint yn agor yn swyddogol am 11.30am ddydd Llun 14 Gorffennaf gyda seremoni ffurfiol syn cynnwys arweinwyr cymunedol lleol i ddilyn gyda phrynhawn agored o weithgareddau rhwng 1:30pm a 7pm i’r cyhoedd. Bydd yna gyfle i blant dan 5 oed fwynhau Amser Odli, tra bydd plant hyn yn cael y cyfle i gael eu cynnwys mewn raffl am ddim os byddant yn galw i mewn a chofrestru ar gyfer y Sialens Ddarllen Haf cenedlaethol. Maer Arddangosfa Dreftadaeth yn awyddus i gasglu atgofion lleol ac mae unigolion a grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i alw i mewn gydau hen ffotograffau, dogfennau a phethau cofiadwy lle gellir eu sganio ar gyfer eu harddangos yn y dyfodol o bosibl. Tra byddant yno, gall ymwelwyr hefyd gael profiad ymarferol yn yr amgueddfa gyda rhai o arddangosion yr Arddangosfa Dreftadaeth. Bydd yr Undeb Credyd ar gael i siarad am fenthyciadau fforddiadwy a chynilion, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn selio olion bysedd mewn cylchoedd allwedd a bydd staff Amgueddfa Dyffryn Maes Glas yn cynnig gwneud bathodynnau am ddim.