Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad Cyngor Sir y Fflint ar Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn

Published: 31/05/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymgynghori â phreswylwyr ar Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) Rheoli Cwn arfaethedig ar gyfer y sir gyfan. Bwriad yr Orchymyn yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus. Bydd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd yn rhoi mwy o bwerau i roi troseddau dynodedig eraill mewn grym, fel gwahardd cwn yn llwyr neu orfodi cadw cwn ar dennyn mewn mannau penodol. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau dydd Iau, 1 Mehefin. Mae’r cynigion yn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn yn cynnwys: 1. Baw cwn i gael ei symud yn syth o holl dir cyhoeddus. 2. Gall swyddog awdurdodedig ofyn i unigolion syn mynd â’u cwn am dro i roi eu ci ar dennyn. 3. Cwn i gael eu gwahardd o fannau chwarae gyda chaeau chwaraeon wedi’u marcio, mannau chwaraeon dynodedig, tir ysgol a mannau chwarae plant wedi’u ffensio. 4. Cwn i gael eu cadw ar dennyn mewn mynwentydd. 5. Dylai unigolion sy’n mynd a’u cwn am dro sicrhau fod ganddynt ddull o gasglu baw cwn os gofynnir iddynt wneud hynny gan swyddog awdurdodedig. Os bydd un o’r rhain yn cael eu torri, bydd Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei roi. Bydd yr Orchymyn, a fydd yn para am gyfnod cychwynnol o 3 blynedd, yn cymryd lle’r Gorchymyn Rheoli Cwn cyfredol. Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: “Rydym yn gobeithio y bydd y Gorchymyn hwn yn helpu i gynorthwyo â phroblemau baw cwn yn ogystal â mynd ir afael â phroblem o gwn yn crwydro’n rhydd mewn mannau cyhoeddus. Yn amlwg mae hi’n bwysig bod ein hanifeiliaid anwes yn cael ymarfer corff, ond hefyd mae arnom angen sicrhau y gall aelodau eraill or cyhoedd ddefnyddio ein mannau gwag cyhoeddus yn ddiogel yn rhydd o wastraff cwn. Bydd yr ymgynghoriad yn agor ar 1 Mehefin ac yn cau ar 29 Mehefin 2017. Rydym yn gwerthfawrogi eich safbwyntiau, felly ewch i http://www.siryfflint.gov.uk/rheolicwnGGMC o 1 Mehefin i weld y gorchymyn drafft, yr atebion i gwestiynau cyffredin a map o’r safleoedd arfaethedig lle byddai’r gwaharddiadau yn cael eu gosod. Yna, llenwch ein harolwg ar-lein ar amodaur Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cwn arfaethedig. Gellir gweld y dogfennau yn Neuadd Y Sir, Raikes Lane, yr Wyddgrug, CH7 6ND. Hefyd gallwch fynd i’r llyfrgell leol neu swyddfa Gysylltu lle gewch help i weld y dogfennau ar-lein.