Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Busnesau Dementia-Gyfeillgar Bwcle

Published: 31/05/2017

Yn ddiweddar cynhaliodd Grwp Llywio Dementia-Gyfeillgar Bwcle, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint, eu Gwobrau Busnes yn Neuadd Eglwys Bistre, Bwcle. Dathliad oedd y digwyddiad o lwyddiant yr wyth busnes a sefydliad ym Mwcle sydd wedi ennill statws ‘Gweithio tuag at fod yn Ddementia Gyfeillgar”. Llwyddodd y busnesau i gyflawni eu haddewid y byddent yn ceisio gwireddu o leiaf pedair gweithred o’r ymrwymiadau a restrir isod: Ymrwymiad 1: Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff (camau’n cynnwys: penodi pencampwr dementia ar gyfer y sefydliad. Rhoi dealltwriaeth sylfaenol o ddementia i staff). Ymrwymiad 2: Adolygu amgylchedd corfforol y siop/eiddo (camau gweithredu i gynnwys: arwyddion clir yn y siop; mynedfeydd wedi’u goleuo’n dda). Ymrwymiad 3: Cefnogi staff sy’n dechrau datblygu symptomau dementia neu sy’n gofalu am unigolyn â dementia (camau i gynnwys: newid rôl unigolyn, darparu gwasanaeth cwnsela mewnol). Ymrwymiad 4: Cefnogi’r gymuned leol (camau i gynnwys: codi arian, gwirfoddoli, partneriaeth elusennol) Yr enillwyr oedd: · Tafarn yr Horse and Jockey · Glanhawyr Ffenestri Warburton · Square Travel · Cartref Gofal Willowdale · Eglwys Bistre · Canolfan Windmill · Coffee Truck · Cwmni Glanhau Michelle Cartwright Meddai Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, Cynghorydd Christine Jones: “Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal y gwobrau hyn ym Mwcle ac maen nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus gan eu bod wedi helpu i godi proffil y salwch a dangos yr hyn y gall sefydliadau ei wneud er mwyn gwneud bywyd yn haws i bobl â dementia a’u teuluoedd. Mae’n parhau â’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud ledled y sir, er enghraifft agor caffis cof.” Medda Ged Fitzpatrick, Cadeirydd Grwp Bwcle: “Mae ein grwp ni wedi gweithio’n galed iawn i godi ymwybyddiaeth o ddementia ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau ac ysgolion lleol er mwyn sicrhau fod Bwcle yn rhywle lle bydd pobl sydd â dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi ac yn cyfrannu at y gymuned leol. “Rydym wedi cael cefnogaeth dda gan y tîm yn Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint.” Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk. Yn y Llun: Jo Lane (Cymdeithas Alzheimer), y Parch Martin Batchelor, Ged Fitzpatrick, Luke Pickering-Jones (CSyFf), Sharon Wallace (cantores) a Rosie Robertson gyda’i mam.