Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol yn gwahodd pêl-droediwr i redeg milltir

Published: 05/06/2017

Bu i Graeme Sharp, un o sêr clwb pêl-droed Everton, ymweld ag Ysgol Estyn yn ddiweddar. Ymwelodd â’r ysgol i gefnogi lansiad y Filltir Ddyddiol yn Sir y Fflint, menter iechyd a lles i blant sy’n ceisio cynyddu gweithgarwch corfforol mewn ysgolion cynradd a dosbarthiadau meithrin drwy annog disgyblion i gerdded, loncian neu redeg am 15 munud pob dydd, beth bynnag y tywydd. Mae’r Filltir Ddyddiol yn helpu i wella iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant, ac yn ôl athrawon mae’r plant hefyd yn canolbwyntio’n well ar ôl dychwelyd i’r ystafell ddosbarth. Mae’r Filltir Ddyddiol yn cael ei lansio yn Sir y Fflint gan Datblygu Chwaraeon, a ariannwyd gan Chwaraeon Cymru, yn dilyn lansiad cenedlaethol yng Nghymru fis Mawrth 2017 gan Sefydliad y Filltir Ddyddiol, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Ysgol Estyn yn un o sawl ysgol yn Sir y Fflint sy’n ymgymryd â’r her ac fe groesawodd y disgyblion Graeme i lansio’r rhaglen yn eu hysgol. Meddai Graeme ar y diwrnod: “Mae’n braf bod yma heddiw a gweld yr holl bobl ifanc mor frwdfrydig dros gadwn heini. Mae arnom ni i gyd angen annog plant i fod yn iach a gwneud ymarfer corff, ac mae hon yn ffordd lawn hwyl o wneud hynny.” Eglurodd Pennaeth Ysgol Estyn, Gareth Jones, sut mae’r rhaglen o fudd i ddisgyblion: “Mae hon yn fenter boblogaidd iawn gyda’r athrawon a’r disgyblion fel ei gilydd. Pan maen nhw’n dychwelyd i’r dosbarth mae’r plant yn llawn bywyd, wedi dadflino, yn barod i ddechrau gweithio unwaith eto gyda mwy o egni ac maen nhwn canolbwyntio’n well.” Nod y Filltir Ddyddiol yw gwella iechyd a lles corfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol ein plant, beth bynnag eu hoedran a’u hamgylchiadau personol. Daeth y syniad gan Elaine Wyllie, enillydd un o wobrau Pride of Britain, pan oedd hi’n bennaeth ysgol gynradd fawr a chymhleth yn Stirling, yr Alban. Roedd Elaine yn pryderu ynghylch diffyg ffitrwydd plant St. Ninians ac felly dechreuodd eu hannog i redeg o amgylch cae’r ysgol am 15 munud pob dydd. O fewn mis roedd y plant yn mynd o amgylch y cae 5 gwaith sef, ar ôl mesur y pellter, un filltir – ac felly fe anwyd y Filltir Ddyddiol. Erbyn diwedd y flwyddyn ysgol roedd bob un o’r 420 o blant yn cymryd rhan, gan gynnwys y dosbarth meithrin. Ers ymddeol yn 2015 mae Elaine yn treulio’i hamser yn datblygu Sefydliad y Filltir Ddyddiol. Crëwyd Sefydliad y Filltir Ddyddiol fis Mawrth 2016 gyda’r nod o roi cyfle i bob plentyn gerdded/rhedeg milltir pob dydd, a heddiw mae dros 2,500 o ysgolion wedi ymuno â’r mudiad. Mae’n syniad syml ac effeithiol, y mae modd i unrhyw ysgol gynradd ei weithredu. Gall yr effaith fod yn drawsffurfiol, gan wella ffitrwydd plant yn ogystal âu lefelau canolbwyntio, hwyliau, ymddygiad a’u lles cyffredinol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.thedailymile.co.uk. Gallwch hefyd gysylltu â’r sefydliad yn uniongyrchol ar info@thedailymile.co.uk neu drwy Facebook (/thedailymile.uk) a Twitter (@_thedailymile). Chris Moss (Datblygu Chwaraeon Sir y Fflint), Graeme Sharp, Gareth Jones (Pennaeth) a Dan Williams (Datblygu Chwaraeon Sir y Fflint) gyda disgyblion Ysgol Estyn.