Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ahoi! Mae’r Teithwyr Amser Bychain yn ôl unwaith eto!

Published: 05/06/2017

Yn ddiweddar fe groesawodd Archifdy Sir y Fflint ym Mhenarlâg 13 o fôr-ladron dewr i de parti Teithwyr Amser Bychain. Daeth y môr-ladron, gan gynnwys un babi, draw gyda’u rhieni i gael hwyl yn dysgu am hanes trwy luniau, storïau, crefftau a cherddoriaeth. Mae’r Archifdy wedi bod yn cynnal digwyddiadau Teithwyr Amser Bychain ers peth amser bellach, ac mae themâu’r sesiynau blaenorol wedi cynnwys cludiant, ffermio, gwyliau a bwyd. Eglurodd Claire Harrington, Prif Archifydd Cyngor Sir y Fflint, sut y dechreuodd pethau: “Aeth rhai o’m cydweithwyr ar gwrs hyffordd a dod yn ôl yn frwdfrydig dros annog plant cyn oed ysgol i ymddiddori mewn hanes. Rydym ni’n croesawu llawer o ysgolion ir Archifdy, ond fel rheol plant iau hyn a disgyblion uwchradd sy’n gwneud prosiectau hanes ydyn nhw. Ond roedd arnom ni hefyd eisiau tanio dychymyg plant iau, i blannur hedyn yn ifanc iawn. Cawsom arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer deunyddiau i redeg y sesiynau hyn ac mae’r plant a’u rhieni wrth eu bodd.” Meddai Sue Copp, Cymhorthydd yr Archifau a Chapten y diwrnod: “Mae heddiw yn ddiwrnod llawn hwyl i edrych ar hanes ein hardal ac Afon Dyfrdwy, gan chwarae gemau, canu, creu pegiau môr-ladron ac ynysoedd llawn trysor! Rydym ni’n cymysgu ffeithiau gyda hwyl a phan maer plant yn dod yn ôl i’n gweld ni gyda’u hysgolion maen nhw awyddus iawn i rannu’r hyn maen nhw wedi ei ddysgu am hanes yn yr ystafell ddosbarth.” Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau’r ysgol – felly cadwch olwg am y sesiwn nesaf fydd yn cael ei chynnal yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r Archifdy yn gartref i archifau unigryw Sir y Fflint ac ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gorffennol, pa un ai ydych chi’n ymchwilio i hanes eich teulu, cartref, ardal neu ysgol neu’n gwneud aseiniadau coleg.