Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfle i noddi Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2014

Published: 01/07/2014

Ymunwch â llwyddiant Wythnos Fusnes Sir y Fflint drwy noddi Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2014. Cynhelir y gwobrau am yr wythfed flwyddyn eleni i gydnabod y cwmnïau mwyaf llwyddiannus a’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yn y sir a’r entrepreneuriaid sydd y tu ôl iddynt. Bydd y gwobrau’n digwydd eleni ar nos Wener 17 Hydref yn Soughton Hall. Mae uned fusnes Cyngor Sir y Fflint yn chwilio am sefydliadau i noddi Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2014. Mae hwn yn gyfle eithriadol i gefnogi digwyddiad cyffrous sy’n ennyn diddordeb cymuned fusnes ddeinamig Sir y Fflint. Mae deg o gategorïau ar gael i’w noddi yn ogystal â phrif le noddi. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kate Catherall, Ymgynghorydd Busnes ar 01352 703221 neu anfonwch e-bost at kate.catherall@flintshire.gov.uk Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw dydd Gwener 11 Gorffennaf 2014.