Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


’The Great Get Together’ ar Fehefin 16,17 18

Published: 08/06/2017

Mae gwasanaeth Celfyddydau Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda Llyfrgelloedd Sir y Fflint i drefnu cyfres o ddigwyddiadau ar draws y sir sy’n rhan o ‘The Great Get Together’, sydd wedi ei ysbrydoli gan Jo Cox. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau am ddim sydd wedi eu trefnu i ddod â phobl ynghyd o fewn eu cymunedau, i wneud ffrindiau newydd ac i ddod i adnabod ei gilydd. Dydd Gwener Mehefin 16 Llyfrgell Treffynnon: Bore Coffi 11am-12pm Llyfrgell y Fflint: Bore Coffi am 11am yn dilyn y sesiwn rigymau am 10.15am. Llyfrgell Cei Connah: Sesiwn ymarfer corff yn defnyddio matiau ar gyfer Babanod a’u Gofalwyr 11.30am-12.30 Sesiwn Symud Tai Chi yn defnyddio cadeiriau ar gyfer pob lefel o ffitrwydd 1-2pm Llyfrgell Yr Wyddgrug: Coffi a Chacen ar Sgwâr Daniel Owen 10.30-11.30am (neu yng Nghanolfan Daniel Owen yn dibynnu ar y tywydd) mewn partneriaeth â Chyngor Tref Yr Wyddgrug Dydd Sadwrn Mehefin 17 Llyfrgell Bwcle: Bore Coffi 10am-12pm Am fwy o wybodaeth am bob un o’r digwyddiadau uchod cysylltwch â’ch llyfrgell leol os gwelwch yn dda. Theatr Clwyd – Picnic ar Ben y Bryn Dydd Sadwrn o 12 (hanner dydd) – 2pm mae Theatr Clwyd yn cael Picnic ar Ben y Bryn fel rhan o ‘The Great Get Together’. Bydd yn digwydd gerllawr theatr a bydd yn cynnwys gweithgareddau llawn hwyl, gemau a cherddoriaeth fyw mewn amgylchedd hamddenol ar gyfer teuluoedd. Gwahoddir teuluoedd i ddod â phicnic gyda nhw neu bydd bagiau picnic ar gael o gaffi’r theatr am £3.00. Os yw’r tywydd yn wael bydd yr hwyl yn digwydd y tu mewn ir theatr, yn Ystafell Clwyd. Os ydych am drefnu digwyddiad yn eich ardal ewch i wefan ‘The Great Get Together am gyngor defnyddiol www.greatgettogether.org, neu cysylltwch â Gwenno Eleri Jones yng Nghyngor Sir y Fflint ar 01352 704271 neu gwenno.e.jones@flintshire.gov os ydych eisiau cymorth i hyrwyddo eich digwyddiad drwy wefan Cyngor Sir y Fflint. Ynglyn â ‘The Great Get Together’: Mae gwefan ‘The Great Get Together yn nodi: Mae ‘The Great Get Together’ wedi ei ysbrydoli gan Jo Cox a laddwyd ar Fehefin 16 y llynedd. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yw dod â’n cymunedau ynghyd a dathlu popeth sy’n ein huno. Hwn yw ein cyfle. Teulu a ffrindiau Jo feddyliodd am y fenter, ac mae’r Cinio Mawr wedi ymuno â ni er mwyn symud eu dathliad blynyddol. Mae dros gant o sefydliadau nawr yn ein cefnogi, edrychwch ar ein tudalen bartneriaid am y rhestr lawn! Mae’r penwythnos hwn wedi ei ysbrydoli gan Jo Cox, ond rydym yn disgwyl i bobl gymryd rhan am nifer o resymau. Am fwy o wybodaeth ewch i www.greatgettogether.org