Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cam arall ymlaen i foderneiddio ysgolion Sir y Fflint

Published: 16/06/2017

Mae contractwr lleol wedi’i ddewis i godi adeilad newydd Ysgol Penyffordd. Mae Wynne Construction o Fodelwyddan wedi’i ddewis i godi’r ysgol gynradd newydd hon ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd yr ysgolion babanod ac iau presennol yn cael eu dymchwel a bydd yr ysgol i blant 3-11 oed yn uno ar safle Abbotts Lane. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys creu maes parcio gwell a mwy ar gyfer staff ac ymwelwyr a chreu mannau gollwng i rieni a gofalwyr. Bydd y cyfleuster yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig i blant oed cynradd. Mae’r prosiect ar gam cynnar iawn a bydd cyfleoedd i bob parti â diddordeb ddweud ei ddweud. Bydd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gynnal ar safle Abbotts Lane ar 11 Gorffennaf, o 3.30pm tan 7pm, lle bydd cyfle i’r cyhoedd siarad efo’r contractwyr a’r tîm sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu’r ysgol newydd hon. Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn cynnwys neuadd, stiwdio ac ystafelloedd dosbarth ar gyfer disgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 (cyfanswm o 315 o ddisgyblion. Bydd y cae a’r ardaloedd chwaraeon yn cael eu cadw. Nid oes dyddiad eto ar gyfer dechraur gwaith ond mae’r contractwr wedi sicrhau na fydd y gwaith yn tarfu’n ormodol ar y dysgwyr na’r gymuned. Bydd yr adeilad newydd yn cael ei godi yn ystod y tymor ysgol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint. Bydd yn gyfleuster modern a rhagorol ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach.” Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: “Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi ein dewis i ymgymryd â gwaith adeiladu’r prosiect newydd cyffrous yma, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, yr ysgol ar gymuned i ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a buddion cymunedol parhaol, gan gynnwys cyflogaeth a hyfforddiant. Mae’r cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei sicrhau ar hyn o bryd drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Bydd arian cyfatebol yn cael ei geisio ar sail 50:50 gyda Chyngor Sir y Fflint yn darparu 50%. Mae’r prosiect hwn yn dilyn gorffen Campws Dysgu Treffynnon a Choleg Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn llwyddiannus, a’r cyhoeddiad diweddar y bydd rhaglen foderneiddio yn dechrau yn ddiweddarach eleni yn Ysgol Uwchradd Cei Connah. Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/School-Modernisation-Related/Ho me.aspx neu anfonwch e-bost at 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk. Gallwch hefyd ddilyn moderneiddio ysgolion ar Twitter, @FCCSchoolMod.