Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Maen amser Jambori Gorffennaf!

Published: 06/07/2017

Yn ddiweddar, cynhaliodd Tîm Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint eu sioe gerdd Jambori pedwar diwrnod ar gyfer plant Blwyddyn 1 a 2. Roedd tua 2,500 o blant Sir y Fflint yn bresennol yn ystod y pedwar diwrnod a chomisiynwyd y cyflwynydd S4C a’r diddanwr Martyn Geraint i lwyfannu wyth perfformiad. Cynhaliwyd y Jambori yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, ac fe hoffai’r tîm ddiolch i Gyngor y Dref am eu cefnogaeth barhaus. Dechreuodd y paratoadau yn gynnar ym mis Mehefin, a bu’r plant yn brysur yn dysgu caneuon er mwyn iddynt allu canu’n Gymraeg gyda Martyn Geraint. Derbyniodd pob ysgol CD or caneuon. Mae Martyn Geraint wedi meithrin enw da fel un o ddiddanwyr mwyaf blaenllaw Cymru gyda gallu naturiol i ysbrydoli plant. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: Ynghyd â bod yn llawn hwyl, mae Jambori yn cynorthwyo i wella sgiliau dwyieithrwydd y plant ac yn darparu dimensiwn ychwanegol i wersi Cymraeg drwy gynnig profiad dysgu cadarnhaol gan ddefnyddio cerddoriaeth. Martyn Geraint yn diolch i Elfair Roberts, trefnydd y Jamborî, sy’n gadael Gwasanaeth Ymgynghorol y Gymraeg ar ôl wyth mlynedd. Bydd colled ar ei hôl!