Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cabinet yn ystyried cynnydd blynyddol cadarnhaol y Cyngor

Published: 16/06/2017

Bydd gofyn i Aelodau’r Cabinet ystyried adroddiad syn cwmpasu perfformiad a chyraeddiadau yn erbyn y mesurau, y cerrig milltir a’r risgiau a nodir yn y Cynllun Gwella ar gyfer 2016/17 pan fyddant yn cwrdd ddydd Mawrth, 20 Mehefin. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi perfformion dda yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn profi unwaith eto ei fod yn Gyngor syn perfformio’n dda. Dyma adroddiad cadarnhaol arall, gyda 100% or camau y cytunwyd arnynt yn cael eu hasesu i fod yn gwneud cynnydd da, ac 82% yn debygol o gyrraedd y canlyniad delfrydol. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Drwy ein Cynllun Gwella, rydym yn blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau sy’n bwysig i’n cymuned. Mae’n cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn i asesu a ydym am gyflawni ein targedau. Er gwaethaf yr heriau ariannol nas gwelwyd o’r blaen, mae’r Cyngor hwn yn parhau i fod yn sefydliad sy’n perfformio’n dda, ac rwy’n falch bod gennym lawer o lwyddiannau i fod yn falch iawn ohonynt. Mae rhai o’r llwyddiannau hynny yn cynnwys: · Sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol llwyddiannus i ddarparu gwasanaethau i ysgolion, cartrefi gofal preswyl a gwasanaethau eraill y Cyngor, gyda’r gallu i wneud busnes yn y farchnad fasnachol ehangach – NEWydd Catering & Cleaning. · Cwblhaur 12 o dai cyngor cyntaf i gael eu hadeiladu mewn cenhedlaeth yng Nghei Connah, ac ehangu’r rhaglen i ardaloedd eraill yn y Sir. · Aeth rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif yn ei blaen gydag agoriad y Campws Dysgu newydd yn Nhreffynnon a 6ed campws Glannau Dyfrdwy, ynghyd â chyhoeddi datblygiad mawr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac ysgol plant iau newydd sbon yn cael ei hadeiladu ym Mhenyffordd yn lle’r ysgolion babanod a phlant iau presennol. · Ar y cyfan, bu i 181 o ymholiadau busnes newydd arwain at greu 1,480 o swyddi yn 2016/17, y mae 572ohonynt wedi bod o fewn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, a 12 yn y sector menter gymdeithasol. Mae cyfran yr ymholiadau busnes sy’n trosi i fuddsoddiadau yn parhau i aros yn uchel, gan ddangos bod Sir y Fflint yn lle gwych i wneud busnes. · Sicrhawyd 285 eiddo ar gyfer ecwiti a rennir ar gyfer prynwyr ty tro cyntaf. · Sefydlwyd Panel Diogelu Corfforaethol gyda chyfrifoldebau clir i fynd i’r afael â diogelu. · Ymdriniwyd â 63% (2130) o ymholiadau ar y cyswllt cyntaf. · Canlyniadau CA2 Sir y Fflint oedd yr uchaf yng Ngogledd Cymru yn 2016 ar 5ed safle allan o 22 o Gynghorau yng Nghymru. · Cynhyrchodd canlyniadau llwyddiannus ymyriadau hawliau lles incwm budd-daliadau ychwanegol o £1,579,380 ar gyfer cartrefi Sir y Fflint. · Lleihau digwyddiadau a’r effaith ar drosedd amgylcheddol gyda gwaith o gyflwyno Deddf Diogelu Mannau Cyhoeddus a Rhybuddion Cosb Benodedig am daflu sbwriel a gadael i gwn faeddu. · Un ar ddeg o Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol wedi’u cefnogi hyd yma, gan gynnwys Canolfan Hamdden Treffynnon a Cambrian Aquatics yng Nghei Connah. · Sicrhau cyllid ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref newydd i wasanaethu’r Fflint a Chei Connah, a gwelliannauwedi’u gwneud i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Sir. · Cyfyngu’r defnydd o lety corfforaethol, gan arbed 31% ar gostau rhedeg.. Mae adnoddau yn parhau i fod yn heriol ond, er gwaethaf hyn, maer Cyngor wedi gallu pennu cyllideb gytbwys ar gyfer 2017/18 drwy roi atebion Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig ar waith a chymryd ymagwedd risg gytbwys i reoli pwysau costau ac amrywiadau yn ystod y flwyddyn. Mae perfformiad ar draws y Cyngor yn parhau i fod yn gryf; bu i 66% o fesurau fodloni neu ragori ar dargedau, a hanner yr holl ddangosyddion y gellid eu mesur yn erbyn y llynedd yn parhaun sefydlog neu’n parhau i wella. Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: “Er gwaethaf pwysau ariannol dwys a gostyngiadau mewn arian cenedlaethol, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol a llwyddiannus wrth gyflawni ei nodau am flwyddyn arall. Mae rhai prosiectau wedi dod i ben, mae rhai yn barhaus ac yn symud i mewn i’r flwyddyn nesaf, ond y peth pwysig yw bod Sir y Fflint yn parhau i gyrraedd a rhagori ar ei dargedau ac yn parhau i ddangos gwelliant blwyddyn ar ôl blwyddyn.”