Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint mewn Busnes

Published: 16/06/2017

Cynhaliwyd digwyddiad busnes diweddaraf Cyngor Sir y Fflint yn Neuadd Sychdyn yn ddiweddar. Croesawodd Sir y Fflint mewn Busnes grwp o uwch arweinwyr busnes a gafodd y cyfle i gyfarfod âr Arglwydd Barry Jones, Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes 2017, ynghyd â chlywed gan Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett a Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter. Gan groesawu pawb ir digwyddiad, dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Barry Jones: Mae Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Gorllewin Caer a Chaer yn chwilio am gyfraniadau ac adborth gan arweinwyr busnes. Rydym eisiau ymgysylltu â chi mewn sgwrs ac ymgynghoriad. Chi yw cynhyrchwyr economaidd y rhanbarth hwn sef yr unig economi trawsffiniol ym Mhrydain sydd â gweithgarwch gweithgynhyrchu gwych – mae mwy na 32% on GDP mewn gweithgynhyrchu - syn llawer uwch nag unman arall yn y wlad. Os yw cyfarfod heddiw yn llwyddiant, rydym eisiau cynnal mwy o ddigwyddiadau fel hyn. Cyflwynodd Clare Budden bedair dogfen strategol syn tanategur Bid syn datblygu: 1. Trac Twf 360 2. Cynllun Twf Gogledd Cymru 3. Cynllun Glannau Dyfrdwy 4. Prosbectws Twf Merswy a Dyfrdwy Siaradodd Colin Everett yn fanwl ynglyn â datblygu Bid Cynllun Twf Gogledd Cymru a oedd ar y trywydd cywir iw gyflwyno i Lywodraethaur DU a Chymru dros yr haf. Dywedodd: Mae gennym becyn o gynlluniau uchelgeisiol yr ydym yn ceisio cyllid ar eu cyfer gan y ddwy Lywodraeth. Mae seilwaith a gwasanaethau cludiant yn allwedd a fydd yn datgloi ein potensial. Yna cafwyd trafodaeth fywiog a gynhyrchodd awgrymiadau a syniadau gwych gan arweinwyr busnes. Roedd y rhain yn cynnwys gweithio gydag ysgolion i ddangos buddion prentisiaethau, gwella cyngor gyrfaoedd, yr angen ar gyfer arloesi a chysylltedd digidol, defnyddior afon fel adnodd ar gyfer cludiant môr a phosibilrwydd cynyddu cludiant yr awyr - roedd yr ystafell yn llawn syniadau, cytundeb a chynlluniau i weithion agos yn y dyfodol. Dywedodd Prif Swyddog Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint, Clare Budden: Rydym yn gwerthfawrogir holl fewnbwn gan arweinwyr busnes ac mae wedi darparu safbwynt gwahanol i ni ar bethau - byddwn yn sicr yn olrhain y rhain gyda nhw. Rwyn credu, gydar holl waith cydlynol syn cael ei wneud mewn partneriaeth, rydym yn y sefyllfa orau erioed i gael y buddsoddiad yr ydym ei angen. I gael rhagor o wybodaeth neu i gael copi or pedair dogfen strategol neu i ddysgu mwy am ddigwyddiadau Sir y Fflint mewn Busnes, cysylltwch â businessweek@flintshire.gov.uk.