Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad Cyngor Sir y Fflint: The Heights; y Fflint

Published: 21/06/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn nifer o geisiadau yn ceisio sefydlu a ywr system cladin a ddefnyddiwyd ar Dwr Grenfell yn Llundain yr un system â ddefnyddiwyd ar ôl cwblhau gwaith adnewyddu sylweddol ar y tri bloc twr yn y Fflint, a elwir ‘The Heights’ Oherwydd yr ymchwiliadau parhaus yn dilyn y digwyddiadau gofidus a thrasig yn Nhwr Grenfell ni fyddai’n briodol i’r Cyngor nodi union fanylion y system na’r cynnyrch a ddefnyddiwyd ar yr adeilad hwnnw. Fodd bynnag, mae’r system ar waith yn dilyn adnewyddu ‘The Heights’ yn defnyddio gwahanol gydrannau a dull gwahanol i’r hyn y deëllir a ddefnyddiwyd yn Nhwr Grenfell. Cwblhaodd Cyngor Sir y Fflint y prosiect adnewyddu gyda’r Prif Gontractwr, SERS ac yn ystod y broses ddylunio, cafodd sawl dull a dewis o ddeunydd cladin eu hymchwilio. Cafodd y dewis terfynol o ddull adeiladu ei ddewis i gynyddu diogelwch ein tenantiaid yn The Heights. Roedd y rhaglen adnewyddu a gynhaliwyd yn cynnwys nifer o fesurau amddiffynnol, y mwyaf sylweddol oedd gosod system chwistrellu a ddyluniwyd i reoli tân yn gyflym pe bai un yn digwydd. Mae gan y Cyngor raglen barhaus o asesiadau risg tân a ddyluniwyd i fonitro, asesu a gwella mesurau diogelwch tân ar gyfer ein holl stoc dai. Mae’r asesiadau hyn yn cael eu rhannu gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer arsylwadau annibynnol. Bydd y Cyngor a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal digwyddiad i roi sicrwydd yr wythnos hon i denantiaid y cyngor lle bydd staff y gwasanaeth tân ac achub a’r cyngor ar gael i ateb cwestiynau ac i roi gwybodaeth. Mae’r Cyngor yn cydymdeimlo ac mae ein meddyliau’n parhau gyda’r dioddefwyr a’u teuluoedd a’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn nigwyddiadau trychinebus Twr Grenfell.