Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Nid AFTA Thought yw diogelu

Published: 28/06/2017

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint nifer o weithdai diogelu unigryw ar gyfer ei weithwyr. Amddiffyn plant ac oedolion yw diogelu ac mae’n cynnwys hyrwyddo iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol, amddiffyn rhag niwed ac esgeulustod, addysg a hyfforddiant a lles cymdeithasol ac economaidd. Gyda chefnogaeth Panel Diogelu’r Cyngor, cynhaliwyd pedair sesiwn hanner diwrnod gan AFTA Thought Training, sy’n defnyddio drama yn eu gweithdai. Yn y sesiynau teirawr yma, roedd gweithwyr yn gallu cael atebion i gwestiynau fel: - Beth sydd wnelo diogelu â fi? - Beth yw arwyddion a symptomau camdriniaeth? - A oes dyletswydd arnaf i gyfleu fy mhryderon ac, os oes, beth syn rhaid i mi ei wneud? Dywedodd Chris Callander o AFTA Thought: “Rydyn ni’n defnyddio actorion i ddod â phrofiad gwirioneddol plant, oedolion a gweithwyr proffesiynol yn fyw. Mae hynnyn creu profiad o hyfforddiant a fydd yn cael gwared ag unrhyw amheuon ynglyn âch dyletswydd ach cyfrifoldebau wrth amddiffyn pobl syn agored i niwed a hyrwyddo eu lles. Ymysg rhai o’r pynciau syn cael eu defnyddio yn yr hyfforddiant mae plant, pobl hyn, iechyd meddwl ac anableddau dysgu.” Dywedodd Eiriolwyr Diogelu Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Billy Mullin ar Cynghorydd Christine Jones: “Mae cadw plant ac oedolion yn ddiogel yn fater i bawb. Y Gwasanaethau Cymdeithasol yw gwasanaeth arweiniol y Cyngor ar gyfer ymdrin ag ymholiadau ynglyn ag unrhyw bryderon, ond mae dyletswydd ar bawb i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion. “Mae diogelu’n flaenoriaeth i’r Cyngor ac rydym yn ystyried ein cyfrifoldebau o ddifri. Mae gennym ni Grwp Diogelu Corfforaethol sydd wedi datblygu polisi’r Cyngor. Mae’r sesiynau yma’n cael eu darparu yn rhan o’n hymrwymiad i ddiogelu.”